Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Cytundeb parhaol

Gradd E: Cyflog cychwynnol o £56,286

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Am y rôl 

Mae hon yn rôl arweinyddiaeth strategol uwch sy'n gosod creadigrwydd wrth wraidd iechyd, lles a gofal cymdeithasol ledled Cymru. Fel Pennaeth Celfyddydau, Iechyd a Lles, byddwch yn arwain datblygiad mentrau effeithiol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n integreiddio'r celfyddydau i ofal iechyd a lleoliadau cymunedol. Gan adrodd i'r Dirprwy Gyfarwyddwr Cydraddoldebau a Phartneriaethau, byddwch yn arwain polisi cenedlaethol, yn rheoli timau arbenigol, ac yn cydweithio ar draws sectorau i ymgorffori'r celfyddydau fel seilwaith hanfodol ar gyfer lles. Bydd eich gwaith hefyd yn hyrwyddo blaenoriaethau trawsbynciol gan gynnwys yr iaith Gymraeg, gweithredu ar yr hinsawdd, ac amrywiaeth a chynhwysiant.

Amdanoch chi

Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol yn y sector Celfyddydau, Iechyd a Llesiant, gyda chefndir mewn ymarfer, ymchwil, neu ddatblygiad strategol ar draws sefydliadau gofal iechyd neu ddiwylliannol. Rydych chi'n dod â hanes cryf o arloesi rhaglenni creadigol, adeiladu partneriaethau rhyngddisgyblaethol, a gyrru newid systemig trwy arloesi. Gyda gwybodaeth ddofn am arferion gorau a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg, byddwch chi'n llunio strategaethau cynaliadwy sy'n ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ymyriadau iechyd creadigol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Yr Iaith Gymraeg

Bydd angen dysgu sgiliau Cymraeg yn sgil penodi os nad ydych yn gallu’r Gymraeg eisoes. Er nad oes disgwyl i chi fod yn gallu’r Gymraeg wrth geisio, rydym yn chwilio am unigolyn sy’n deall diwylliant y wlad; perthynas amrywiol pobl Cymru gyda’r iaith Gymraeg ac sy’n ymrwymo i ddatblygu defnydd blaengar o’r Gymraeg yn ieithyddol a diwylliannol o fewn Cyngor y Celfyddydau a’r sector ehangach. Mae stori pawb gyda’r iaith yn wahanol ac rydym yn cydnabod bod lefelau gallu a hyder yn amrywio o berson i berson. Byddwn yn sicrhau’r gefnogaeth berthnasol i gynyddu neu ddysgu sgiliau Cymraeg.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig. 

Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion. 

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau:                   5yh, Dydd Gwener 8fed Awst 2025

Cyfweliadau:                   21ain a 22ain o Awst 2025 (Mewn person yn ein Swyddfa yng  Nghaerdydd)             

Gweithio hyblyg

Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd. 

Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig. 

Dogfen17.07.2025

Pecyn Swydd: Pennaeth Celfyddydau, Iechyd a Llesiant