Mae PDC a Sound Progression – sefydliad datblygu cerddoriaeth ieuenctid – wedi lansio partneriaeth strategol sy’n canolbwyntio ar feithrin talent gerddorol newydd, creu cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc greadigol, a chryfhau’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae Sound Progression yn sefydliad blaenllaw sy’n cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 10 a 25 oed, yn enwedig y rhai o gefndiroedd amrywiol ac economaidd-gymdeithasol difreintiedig. Trwy brosiectau cerddoriaeth a hyfforddiant dan arweiniad y cyfranogwyr, a gyflwynir mewn stiwdios cymunedol, mae Sound Progression yn hyrwyddo mynegiant creadigol, grymuso ac adeiladu hyder i gantorion, cyfansoddwyr, cynhyrchwyr ac pheirianyddion sain ifanc.

Yn Ionawr 2025, dyfarnodd cronfa'r Ed Sheeran Foundation grant aml-flwyddyn sylweddol i Sound Progression, gan ddarparu sefydlogrwydd ariannol a galluogi twf i’r elusen gerddoriaeth ieuenctid. Mae eu partneriaeth ag PDC yn rhan allweddol o’r strategaeth twf barhaus hon.

Dywedodd Carole Blade, Rheolwr Cwmni Sound Progression:
“Mae’r bartneriaeth hon yn gam hollbwysig tuag at greu llwybrau cynaliadwy i artistiaid ifanc yng Nghymru. Trwy weithio’n agos gydag USW gallwn wella cyfleoedd i’n cyfranogwyr a chryfhau’r sector cerddoriaeth lleol.”

Ychwanegodd Lucy Squire, Pennaeth Cerddoriaeth a Drama ym Mhrifysgol De Cymru:
“Mae ein cydweithrediad â Sound Progression yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gysylltu addysg, creadigrwydd a chymuned. Gyda’n gilydd, rydym yn meithrin amgylchedd cynhwysol lle gall talent newydd ffynnu a chyfrannu at ddyfodol diwylliannol ac economaidd Cymru.”

Bydd y bartneriaeth yn cael ei lansio gyda sioe gerddoriaeth fyw am ddim yn Undeb Myfyrwyr PDC, campws Caerdydd, ar ddydd Iau 9 Hydref o 5pm ymlaen. Mae’r digwyddiad yn agored i fyfyrwyr a’r gymuned gerddorol ehangach.