Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn annog artistiaid a sefydliadau celfyddydol i ddysgu Cymraeg drwy gynnig rhad ac am ddim y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Ar ddechrau 2020 cynhaliwyd prosiect peilot tri mis gan y Cyngor a'r Ganolfan i ystyried  anghenion iaith gweithwyr celfyddydol a dod o hyd i gyrsiau Cymraeg iddynt. Rhagorodd y cynllun peilot ar bob un o’i dargedau. Felly mae'r Cyngor yn annog gweithwyr celfyddydol i ddefnyddio adnoddau'r Ganolfan i wella eu Cymraeg.

Meddai Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

"Rydym ni’n falch o gydweithio â’r Cyngor i roi hwb i ddysgu Cymraeg yn sector y celfyddydau. Ar ôl lwyddiant y prosiect peilot, gobeithio y bydd rhagor hyd yn oed o sefydliadau ac unigolion yn y maes yn dod atom am gymorth.

"Cwrs estynedig ar-lein lle gall pobl astudio ar eu pen eu hun yw’r ychwanegiad mwyaf at ein cynnig yn ystod y flwyddyn. Mae’n cyfateb â 60 awr o wersi yn yr ystafell ddosbarth. Mae'n gwrs newydd sbon sy’n ateb y galw am ddulliau dysgu hyblyg yn ystod y pandemig.

"Fel rhan o'r rhaglen Cymraeg Gwaith, rydym ni’n cynnig gofal gan diwtoriaid, sesiynau adolygu, cymorth e-bost a chyrsiau blasu ar-lein. Mae Cymraeg Gwaith yn cael ei ariannu'n llawn, felly dim ond cofrestru sydd raid ichi ei wneud."

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn buddsoddi yn ein creadigrwydd a'n hamrywiaeth a dyma amcanion pwysicaf ein cynllun corfforaethol, Er Budd Pawb. Rydym ni wrth ein bodd i gydweithio â'r Ganolfan i annog staff y sector i fanteisio ar y cynnig ar-lein sy’n rhad ac am ddim.

"Gobeithio y gall gweithwyr y sector fanteisio ar y cyfle yn ystod y cyfnodau cloi. Bydd hyn wedyn yn gymorth mawr i’r cyhoedd yn ei dro."


Diwedd                                      Llun 7 Rhagfyr 2020

Nodiadau i’r golygydd

Mae Cymraeg Gwaith yn gynllun i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: https://dysgucymraeg.cymru/cymraeg-gwaith/pecynnau-cymraeg-gwaith-2020/

Mae manylion am gyrsiau Cymraeg eraill yma: https://dysgucymraeg.cymru/