Er mwyn gwasanaethu'r cymunedau rydyn ni’n gweithio ynddyn nhw, mae angen i ni greu lle i leisiau amrywiol gael eu clywed.
Rydyn ni’n recriwtio gwirfoddolwyr i ymuno â’n paneli Llais y Gymuned i helpu i roi gwybodaeth am amrywiol agweddau ar ein lleoliad a’n rhaglen llesiant creadigol, a sicrhau ein bod yn ofod cynhwysol a chroesawgar i bawb.
Bydd y paneli’n cyfarfod bob chwarter dros baned a chacen i drafod meysydd fel rhaglennu, mynediad, amrywiaeth ac ymwneud â’r gymuned. Mae croeso i bawb o bob oed a chefndir (bydd paneli ar wahân yn cael eu cynnal ar gyfer pobl ifanc). Dyma'ch cyfle i helpu i adeiladu dyfodol Neuadd y Dref Maesteg, Y Muni ym Mhontypridd, a'r Met yn Abertyleri.
Mae ymrwymiad am flwyddyn yn unig; pedwar cyfarfod. Os hoffech gael eich ystyried, e-bostiwch helen.clews@awen-wales.com