Mae wyth o orielau celf fwyaf enwog ac eiconig y DU yn cynnwys Amgueddfa  Genedlaethol Cymru, Tŷ Pawb yn Wrecsam, Canolfan Grefftau Rhuthun, Gogledd  Cymru, a Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) wedi dod ynghyd ar-lein am y tro cyntaf i  anrhydeddu pencampwyr pob dydd y celfyddydau  

Mae’r arddangosfa ddigidol unigryw gan y Loteri Genedlaethol yn dathlu’r unigolion anhygoel sy’n gweithio’n ddiflino trwy’r pandemig i gyflwyno creadigrwydd, mwynhad  a chyfoethogiad i bobl mewn ffyrdd newydd gan gynnwys Patrick Joseph, y dylunydd  ffasiwn a leolir yn Rhuthun a Jennifer Hill, cynhyrchydd gydag Opera Cenedlaethol  Cymru  

Mae’r portreadau grymus a theimladwy wedi’u creu gan Chris Floyd sydd fel arfer yn  tynnu ffotograffau o enwogion megis Syr Paul McCartney, Sir Mo Farah a Victoria  Beckham 

Ganed yr arddangosfa o ganfyddiadau gan y Loteri Genedlaethol, y mae ei  chwaraewyr yn codi £30m pob wythnos ar gyfer achosion da, a oedd yn arddangos  ‘adfywiad domestig’ o ran pobl yn mwynhau’r celfyddydau gartref gyda dros traen  bron (61%) o oedolion Cymru yn dweud ei fod wedi helpu eu cyflwr meddwl yn ystod  yr argyfwng, a mwy na hanner (47%) yn credu y byddai’r effeithiau positif ar eu lles  yn parhau am hir.  

 

Heddiw am y tro cyntaf, bydd Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Tŷ Pawb yn Wrecsam a  Chanolfan Grefftau Rhuthun yng ngogledd Cymru yn ymuno gyda phum oriel eiconig  arall a’r BFI (sefydliad arweiniol y DU ar gyfer ffilmiau, teledu a’r ddelwedd symudol), i  gyflwyno arddangosfa unigryw o ffotograffau lle nad yw’r testunau yn enwogion na  ffigyrau hanesyddol, ond yn hytrach yn bencampwyr pob dydd sydd heb gael eu  cydnabod o fewn y sector gelfyddydol.  

Mae Patrick Joseph, y crëwr ffasiwn o Ruthun a Jennifer Hill, cynhyrchydd gydag Opera  Cenedlaethol Cymru ymysg y bobl nodedig trwy gydol y DU sy’n cael eu hanrhydeddu  gan y Loteri Genedlaethol am gadw’r celfyddydau’n fyw ac o fewn cyrraedd i bawb yn eu  hardal leol neu am gefnogi rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau  trwy’r celfyddydau.  

Mae’r arddangosfa – sy’n dwyn y teitl, Portreadau’r Loteri Genedlaethol o’r Bobl  2020 – yn anrhydeddu 13 o’r pencampwyr artistig hyn am wneud gwahaniaeth 

Society’s Unheralded Champions: A National Lottery Report, October 2020 includes findings from a  survey completed by a nationally representative sample of 6,000 adults from across the UK between 2-9 October  2020. It was scripted, hosted, sampled and data processed by Opinium. 

arwyddocaol i godi hwyliau pobl eleni, gan ddefnyddio ychydig o’r £30m a godir gan  chwaraewyr y Loteri Genedlaethol pob wythnos tuag at achosion da. Gellir edrych ar yr  arddangosfa ddigidol ar wefannau a chyfryngau cymdeithasol: Tŷ Pawb yn Wrecsam,  Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Canolfan Grefftau Rhuthun, Cymru, Yr Oriel Bortreadau  Genedlaethol yn Llundain, Y MAC yn Belfast, Oriel IKON yn Birmingham, Summerhall yng  Nghaeredin, The Photographers’ Gallery yn Llundain a’r BFI (Sefydliad Ffilm Prydain).  Bydd y portreadau’n cael eu harddangos hefyd yn y BFI Southbank yn Llundain.  

Mae’r ffotograffydd, Chris Lloyd, sydd wedi treulio ei yrfa 25 mlynedd yn tynnu  ffotograffau o enwau cyfarwyddyd mewn cartrefi megis Syr Paul McCartney, Victoria  Beckham a Syr Mo Farah, wedi cael ei gomisiynu gan Y Loteri Genedlaethol i dynnu’r  portreadau. Nod y gwaith yw creu ‘ennyd mewn hanes’, gan ddiogelu gwaith y  pencampwyr hyn sydd heb eu cydnabod am byth, a chrynhoi’r ffyrdd amrywiol a  dyfeisgar y gall celf gael ei fynegi. 

Pan ddechreuodd y cyfnod clo, gwelodd Patrick Joseph a leolir yn Rhuthun ei fusnes o  gynhyrchu dillad pwrpasol ac unigryw yn cael ei atal yn sydyn; ond roedd yn gyflym i  addasu, wrth i fasgiau wyneb ddod yn ddewis dillad nas rhagwelwyd ar gyfer 2020. Wedi  gweld adroddiadau newyddion niferus am brinder masgiau a’u diffygion, dechreuodd  Patrick lunio masg ei hunan yn ei stiwdio yng Nghanolfan Grefftau Rhuthun, cyn cael  cymeradwyaeth feddygol yn sydyn gan Ganolfan Canser Clatterbridge ar y Cilgwri (The  Whirral).  

Ar wahân i’r diogelwch a gynigir gan y masgiau, mae nyrsys, meddygon a chleifion wedi  elwa o’r dyluniadau llon, y dewisiadau lliwgar o ran deunyddiau a’r negeseuon cudd  ysbrydoledig y tu mewn iddynt sydd ond yn weladwy i wisgwr y masg.  

Datganodd y teiliwr medrus 55 mlwydd oed sydd wedi gweithio ag enwogion megis Cheryl Cole, Kylie Minogue a Robbie Williams: “Fel artist, roedd gallu newid yn sydyn i  rywbeth oedd ei angen yn wych. Mae rhoi negeseuon neu ryw fath o naratif ar ddillad  wedi bod yn ddiddordeb i mi erioed.”  

Mae’r sefydliad yn un o nifer o achosion yn unig sydd wedi elwa o’r £30 miliwn a godir  gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol pob wythnos ac mae Patrick wedi cyfaddef nad  yw’n gwybod lle y byddai heb y gefnogaeth: “Mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn  fancwr y celfyddydau yng Nghymru. Ni fyddai dim o hyn wedi digwydd petawn yn ei  wneud ar ben fy hunan yn ynysig.” 

Ymunodd y cynhyrchydd, Jennifer ag Opera Cenedlaethol Cymru nifer o flynyddoedd yn  ôl lle mae’n gweithio o fewn yr adran Rhaglenni ac Ymgysylltu, gyda chyfrifoldeb dros  Cysur (Cradle) – prosiect celfyddydau creadigol rhwng y cenedlaethau yn Sir Benfro a  ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Nod y prosiect yw creu mwy o ymwybyddiaeth am yr  hyn mae byw â dementia yn ei olygu a sut y gall unigolion, gyda mwy o wybodaeth,  greu cymdeithas fwy cefnogol ar gyfer y sawl sy’n byw gyda’r clefyd. 

Ychwanegodd: “Bu farw fy mam o’r clefyd yn 2017 ac rwy’n cofio dymuno y byddwn  wedi cael rhyw fath o ymarferiad paratoi gan fod cymaint o bethau nad oeddwn yn  gwybod am y clefyd. Petawn wedi cael y wybodaeth honno, fe fyddwn wedi deall mwy a’i  chefnogi yn well.”  

Pan ddechreuodd y pandemig, roedd yn edrych fel y byddai prosiect Cysur yn cael ei  orfodi i gau oherwydd natur broblematig canu cymunedol. Fodd bynnag, roedd Jennifer 

yn benderfynol o barhau gyda’r sesiynau yn ystod amser o unigrwydd ac ansicrwydd  eithafol posibl.  

Er gwaetha’r her ddyrys o symud y côr ar-lein – roedd mwyafrif y cyfranogwyr yn 50  mlwydd oed neu hŷn, a doedd dim cyfrifiadur yn y cartref hyd yn oed gan lawer ohonynt  – mae Cysur wedi esblygu, gan arwain at yr uchafbwynt sef Jennifer yn trefnu  digwyddiad rhithwir lle bu’r aelodau yn rhannu caneuon, ynghyd â chyfraniadau gan y  tîm creadigol a ffilmiau byr a grëwyd gyda disgyblion ysgol.  

“Y gobaith yw y byddwn, ar ryw adeg, yn ôl yn ein cartref yn Sir Benfro sef Theatr y  Torch a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Y syniad wedi hynny yw y byddwn yn gallu  meithrin a datblygu’r rhaglen gyda sesiynau digidol oherwydd bod y dechnoleg gennym  ni, fel y gallwn gysylltu gyda mwy o gartrefi gofal lleol. Mae’r holl raglen yn ymwneud â  grym cerddoriaeth i ysgogi teimladau, ac os gallwn gynnwys mwy o bobl, yna’r gorau  oll.”  

Mae’r arddangosfa yn lansio fel mae’r Loteri Genedlaethol yn rhyddhau canfyddiadau1 sy’n dangos fod y cyhoedd, ar draws Cymru, wedi troi at amrywiaeth eang o  weithgareddau artistig, gyda 18% yn bachu’r cyfle i wneud mwy o gelf a chrefft, hanner  yn mwynhau gwrando ar fwy o gerddoriaeth (55%) a gwylio mwy o ffilmiau (54%), a  8% yn canu mwy.  

Gyda nifer o’r lleoliadau adloniant traddodiadol ar gau, roedd cynnal tasg greadigol wedi  dod yn gysur hefyd i nifer gyda 61% o oedolion Cymru a ryngweithiodd gyda chelf a  chrefft yn ei ganmol fel ffactor wrth wella eu cyflwr meddwl yn ystod yr argyfwng.  Dywedodd dwy ran o dair o bobl hefyd eu bod wedi gwrando ar gerddoriaeth mwy dros y  cyfnod clo gan ddweud y cafodd hyn effaith bositif ar eu lles a dywedodd 31% pellach  fod cymryd rhan mewn celf a chrefft wedi eu helpu ymlacio fwy a theimlo’n llai pryderus.  Yn bwysicach, roedd mwy na hanner (47%) yn credu hefyd y byddai’r effeithiau iechyd  meddwl yn rhai parhaol iddynt.  

Mae’r arddangosfa o fewn cyrraedd am ddim ar-lein ar wefannau’r orielau trwy gydol mis  Tachwedd. Yn ychwanegol at y portreadau, mae Jayisha Patel, gwneuthurwr ffilmiau  sydd wedi ennill gwobrau ac wedi elwa o raglen datblygu doniau BFI NETWORK a wnaed  yn bosibl trwy arian y Loteri Genedlaethol, wedi dogfennu sesiynau tynnu ffotograffau  Chris Floyd gyda ffilm fer y tu ôl i’r llenni. Mae’r darn yn edrych ar rai o’r bobl anhygoel  hyn a’r storïau sydd y tu cefn iddynt. Fe fydd y ffilm ar gael ar sianeli cyfryngau  cymdeithasol y BFI. 

Ychwanegodd Chris Floyd: “Mae’r holl bobl rydym yn eu cyfarfod yn yr arddangosfa hon  wedi gwneud rhywbeth arbennig i helpu cadw enaid eu cymuned yn fyw yn ystod yr  adegau anodd a thywyll hyn gan ddefnyddio arian a godir gan chwaraewyr y Loteri  Genedlaethol. Anifeiliaid pwn yw bodau dynol ac mae ein dymuniad, ynghyd â’n hangen,  i ddod ynghyd – boed yn gorfforol neu’n ddigidol – a llunio achos cyffredin yn un o’n  greddfau trechol. Mae’r grŵp hwn wedi dangos ysbryd ‘o allu gwneud’, gan wrthod  gorwedd lawr ac ildio, er gwaethaf eu treialon personol a threialon cenedlaethol eleni.  Maen nhw wedi creu gwaith a phrosiectau sydd wedi’u dylunio’n benodol i ddiwallu’r  angen hwnnw am gryfder cymunedol gan ddefnyddio grym y celfyddydau. Fy nod oedd  dogfennu pob un ohonynt mewn ffordd sy’n arddangos y synnwyr hwnnw o onestrwydd,  dewrder a chryfder, ynghyd â’u hiwmor a joie de vivre.” 

Dywedodd Jayisha Patel: “Mae pandemig Covid wedi bod yn amser o ddifrifoli i’r  diwydiant ffilmiau yn gyffredinol, ac rydym oll wedi gorfod troi i gadw ein hangerdd yn  fyw. Roedd ffilmio’r bobl arbennig o ymroddedig yma wedi bod yn rhywbeth llawen ac  ysbrydoledig i fod yn rhan ohono – gan weld sut yr oeddynt gyda chymorth arian y Loteri  Genedlaethol, wedi ymladd i gadw’r tân i fynd ar gyfer y celfyddydau mewn myrdd o  ffyrdd. Rwy’n gobeithio fod y ffilm hon yn dangos y cryfder a’r gefnogaeth a all ddod o  gymryd rhan mewn prosiectau celfyddydol fel y rhain – a sut y gall y celfyddydau a ffilm,  hyd yn oed trwy galedi, ffynnu yn y ffyrdd lleiaf, a bod o fudd i gymaint, gyda’r help a  dderbyniwyd ar hyn y daith gan bawb sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol.”  

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Celfyddydau Cymru:  

“Mae cariad mawr tuag at greadigrwydd, celf a diwylliant gan bobl yng Nghymru. Rydym  yn gwybod y gall y pethau hyn ddod â ni ynghyd, cyfoethogi ein bywydau, cefnogi ein  lles emosiynol, a’n gwneud yn hapusach. Trwy gydol y cyfnod clo, rydym yn gweld fod  pobl mewn pentrefi, trefi a dinasoedd wedi parhau i gymryd rhan a mwynhau’r  celfyddydau boed os yw hynny yn y cartref, yn ddigidol, neu trwy weithgareddau gyda  chadw pellter cymdeithasol o fewn eu cymunedau.  

“Mae artistiaid, sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, a’r unigolion oddi mewn iddynt,  wedi bod yn rym yn y cefndir sydd wedi bod yn gyrru hyn. Gan harneisio arian hanfodol  oddi wrth y Loteri Genedlaethol, maen nhw wedi sefydlu prosiectau creadigol yn lleol ac  yn genedlaethol er mwyn i bobl eu mwynhau. Rydym eisiau diolch iddynt am wneud  bywyd ychydig bach yn well i nifer o bobl, ac rydym eisiau diolch i chwaraewyr y Loteri  Genedlaethol eu hunain am chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r celfyddydau yn ystod  yr amseroedd heriol hyn. Pob wythnos mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi  £30 miliwn anhygoel tuag at achosion da, gan gyfoethogi bywyd cyhoeddus ym mhob  cornel o’r DU.”  

I wybod mwy am sut mae’r Loteri Genedlaethol yn dathlu’r gwaith a wneir gan bobl sydd  heb gael eu cydnabod ar draws y DU, edrychwch ar www.lotterygoodcauses.org.uk