I nodi Diwrnod Presgripsiynu Cymdeithasol eleni (19 Mawrth), mae mam i ddau o Orllewin Cymru sy’n byw mewn poen difrifol wedi rhannu sut arweiniodd galwad argyfwng i'w chyngor lleol at ailgynnau ei hangerdd am ysgrifennu, a drawsnewidiodd ei bywyd.

Pan gysylltodd Shirley â’r tîm argyfwng yn ei chyngor lleol a gofyn am gael ei rhoi mewn gofal preswyl parhaol, collodd bob gobaith am ei dyfodol.

Roedd afiechyd yn golygu na allai wneud llawer o'r pethau roedd hi'n eu caru ar un adeg, gan effeithio ar ei hiechyd meddwl yn ogystal â’i hiechyd corfforol.

“Roeddwn i wastad yn berson corfforol– yn ‘first Dan’ mewn karate – felly roedd mynd o hynny i fod prin yn gallu symud wedi fy llorio,” dywedodd. “Roeddwn i mewn lle tywyll.  O’m rhan i, roedd angen i fi fod mewn cartref lle nad oeddwn yn faich ar fy nheulu. Doeddwn i ddim yn gallu gweld ffordd arall.”

Yn yr wythnosau ar ôl i Shirley gysylltu â’r cyngor, fe wnaeth presgripsiynydd cymdeithasol, a oedd yn gysylltiedig â’i meddyg teulu, gysylltu â hi. Wrth glywed am angerdd Shirley am ysgrifennu, soniwyd wrthi am gwrs ysgrifennu creadigol a gynhaliwyd gan Wasanaeth Creadigol yn y Cartref People Speak Up yn Sir Gâr. 

Mae’r gwasanaeth creadigol yn y cartref yn wasanaeth celfyddydau ac iechyd sydd wedi’i gynllunio a’i gyflwyno gan People Speak Up mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gâr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Cysylltu Sir Gâr. Mae'n cymryd atgyfeiriadau gan bartneriaid yn Cysylltu Sir Gâr ac yn eu paru gyda hwylusydd People Speak Up ac un o’r 13 o artistiaid lleol.

Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae’r rhaglen, sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi cefnogi bron i 200 o bobl fel Shirley, sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u diwrnodau gartref, oherwydd rhesymau iechyd corfforol neu feddyliol, i fagu hyder ac i ailgysylltu â'u cymuned drwy gynnig mynediad at amrywiaeth o weithgareddau celfyddydol – o ganu a symud i cerameg ac ysgrifennu creadigol.

“Roeddwn i wedi ysgrifennu llyfr ffeithiol yn y gorffennol ac wedi breuddwydio am ysgrifennu nofel ffantasi hefyd, felly penderfynais roi cynnig arni,” dywedodd Shirley.

Am wyth wythnos, bob wythnos, fe wnaeth awdur a hwylusydd People Speak Up ymweld â chartref Shirley i’w helpu i droi’r freuddwyd yn realiti. 

“Fe wnes i rannu fy syniad a chefais help i ddatblygu cymeriadau, adeiladu’r tirlun ar gyfer y stori, ac yn y broses o wneud hynny, fe wnaethon nhw fy helpu hefyd i ailadeiladu fy hun gan bwyll bach,” dywedodd.

Bellach traean o'r ffordd drwy ei nofel gyda syniadau am gyfres, nid yw Shirley bellach yn teimlo bod angen iddi fod mewn gofal preswyl ac mae wedi cael mynediad at nifer o addasiadau yn y cartref sydd wedi ei helpu i adennill rhywfaint o'i hannibyniaeth goll. Mae ei hiechyd meddwl “ddeg gwaith yn well”, meddai.

“Mae People Speak Up wedi rhoi fy mywyd yn ôl i fi,” dywedodd. “Rydw i’n dal i gael diwrnodau gwael, ond yn gyffredinol, mae bywyd yn teimlo’n well. Rwy'n teimlo'n ddynol eto.”

Ceir tystiolaeth gynyddol o'r effaith bositif y gall y celfyddydau a chreadigrwydd ei chael ar ein hiechyd a’n lles corfforol a meddyliol.  Mae ymgysylltu â gweithgareddau creadigol, er enghraifft, wedi dangos ei fod yn gwella iechyd meddwl ac yn lleihau unigrwydd. Gall prosiectau creadigol wedi’u targedu hefyd helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd drwy fod o fudd i gymunedau sydd wedi’u heffeithio gan galedi, ymyleiddio neu amddifadedd.

Dywedodd Carys Phillips, cydlynydd prosiect People Speak Up, fod stori Shirley yn un o nifer sy’n dangos pa mor bwysig yw’r celfyddydau ar gyfer lles.

“Mae’r celfyddydau yn cynnig gofod i fynegi, cyfathrebu a chreu newid,” dywedodd. 

“Mae’r angen am hyn yn parhau i dyfu, sy’n dangos bod angen darparu’r gwaith hwn i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn gallu cael y profiad hwn i greu newid positif.”

Ychwanegodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae stori Shirley yn brawf pwerus o sut gall presgrispiynu creadigol ac ymgysylltu â’r celfyddydau wella iechyd a lles person yn sylweddol.

“Yn Hywel Dda rydyn ni’n gweithio’n galed i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu pobl yn well gyda gweithgareddau celfyddydol ac iechyd yn eu cymuned leol, gyda'r nod o helpu pobl i fyw'n dda yn hirach yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain. Rydyn ni’n gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid celfyddydol, fel People Speak Up, a meddygon teulu i helpu i wireddu hyn.

“Mae'r manteision yn amlwg: canlyniadau iechyd gwell, cysylltiadau cymunedol cryfach, ac ased i wasanaethau meddygon teulu ei ddefnyddio i wella iechyd a lles eu cleifion.”