Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cyhoeddi newid yn nyddiadau ymgeisio ar gyfer dwy o gronfeydd y Loteri Genedlaethol.

Mae hyn yn sgil Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ail rownd o'r Gronfa Adfer Ddiwylliannol ynddiweddar. Mae'r gronfa yn rhoi cymorth i'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol oherwydd cyfyngiadau’r pandemig. Y Cyngor fydd yn gweinyddu'r Gronfa o ran sefydliadau diwylliannol. Llywodraeth Cymru fydd yn ei gweinyddu o ran sefydliadau yn y diwydiannau creadigol ac unigolion.

Mae angen gweithredu’r gronfa ar frys. Felly rydym ni’n gohirio dyddiad ymgeisio i  gronfeydd y Celfyddydau ac Iechyd a chronfa Creu'r Loteri Genedlaethol tan 6 Mai.

Meddai Richard Nicholls, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Bydd Cronfa Adfer Ddiwylliannol 2 ar agor i gais ar 6 Ebrill. Felly rhaid inni ganolbwyntio ar y gronfa yna’n gyntaf. Mae llawer o sefydliadau'n wynebu anawsterau ariannol sydd, mewn rhai achosion, yn peryglu eu parhad.

"Bydd rhaglenni'r Loteri Genedlaethol ar agor tua 3 wythnos yn hwyrach na'r dyddiad arfaethedig. Bydd y Celfyddydau ac Iechyd a Chreu bellach ar agor i gais ar 6 Mai."

Mae ail rownd y Gronfa Adfer Ddiwylliannol yn agor ar 6 Ebrill ac yn cau ar 20 Ebrill.

Mae’r canllawiau ar gyfer Cronfa Adfer y Celfyddydau 2 bellach yn fyw a maent i’w gweld yma - https://arts.wales/cy/ariannu/gwneud-cais/sefydliadau/coronafeirws-cymorth-refeniw-i-sefydliadau-celfyddydol

Diwedd                                          31 Mawrth 2021