Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol.
Darparodd y Gronfa Adferiad Diwylliannol, a lansiwyd yr haf diwethaf, £63.3m yn 2020-21 i gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol a gweithwyr llawrydd.
Roedd yn cynnwys tair prif elfen – gweinyddodd Cyngor Celfyddydau Cymru gyllid o fwy na £18m i gefnogi 170 o sefydliadau, gan gefnogi theatrau ac orielau celf cenedlaethol a lleol. Mae dros 1,000 o swyddi wedi'u cefnogi.
Y Gronfa Gweithwyr Llawrydd oedd y cyntaf o'i bath yn y DU ac mae wedi darparu cyfanswm o £18m o gymorth grant i 3,500 o weithwyr llawrydd nad ydynt wedi gallu gweithio yn ystod y pandemig ac a fydd yn hanfodol i adferiad diwylliannol Cymru.
Darparodd yr elfen o'r gronfa a weinyddir gan Lywodraeth Cymru £27m i gefnogi'r sectorau diwylliant, creadigol, digwyddiadau a threftadaeth. Derbyniodd dros 500 o sefydliadau gyllid.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas:
"Rydym yn cydnabod yr heriau digynsail y mae'r pandemig yn eu cael ar wead diwylliannol bywyd Cymru ac rydym yn cymeradwyo'r gwydnwch a'r creadigrwydd a ddangosir.
"Rydyn ni i gyd eisiau bod yn ôl mewn theatrau, sinemâu ac orielau lleol cyn gynted â phosib, ond mae'n rhaid i ni aros yn amyneddgar. Yr ydym wedi bod yn onest ac yn realistig gyda phobl yng Nghymru o'r cychwyn cyntaf, yn hytrach na pheintio'r darlun mwyaf optimistaidd a allwn.
"Gyda hynny mewn golwg rydym wedi gwrando a gweithio gyda'r sectorau i roi'r pecyn cymorth ychwanegol hwn ar waith ac rwy'n sicr y bydd yn darparu rhyddhad i'w groesawu, yn ogystal â blociau adeiladu ar gyfer y dyfodol."
- Dim ond ceisiadau gan sefydliadau (nid unigolion) y byddwn yn eu prosesu
- Bydd y Broses Ymgeisio yn agor ar y 6ed o Ebrill ac yn cau am 5pm ar yr 20fed o Ebrill.
- Yn y cyfamser, rydym wedi agor ein gwiriwr cymhwysedd : https://fundchecker.businesswales.gov.wales/culturep2/cy
- Os ydych chi'n gymwys, ond nid oes gennych gyfrif ar-lein gyda ni, cofrestrwch am un cyn gynted â phosibl: https://porth.celf.cymru/ Dylid nodi y gall gymryd hyd at 5 diwrnod i i gofrestru. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr.