Mae cyfres o brosiectau celfyddydau ac iechyd arloesol a gynhaliwyd ledled Cymru yn ystod y pandemig wedi sbarduno argymhellion yn ystod yr Wythnos Creadigrwydd a Lles (16-22 Mai) ar gyfer sut gall celf chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o greu ‘Cymru Iachach’.

Roedd canu at ddementia, ysgrifennu creadigol i gefnogi’r gwaith o wella o ddibyniaeth a sesiynau celf ar gyfer cleifion mewnol iechyd meddwl ymysg 13 o brosiectau a ariannwyd ac a gefnogwyd gan HARP (Iechyd, Celfyddydau, Ymchwil, Pobl) – partneriaeth ymchwil ac arloesi rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Lab Prifysgol Caerdydd a sefydliad arloesi Nesta. Roedd yr holl brosiectau’n gydweithrediad rhwng artistiaid, sefydliadau iechyd a gofal yn y gymuned, awdurdodau lleol a/neu fyrddau iechyd lleol.

Mae rhestrau aros hir am gymorth i bobl sy’n gaeth i sylweddau mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith yng Ngogledd Cymru, er enghraifft, wedi ysgogi’r artist Iola Ynyr i ffurfio partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru i ddechrau Ar y Dibyn a’i datblygu’n rhaglen genedlaethol. Mae’r prosiect iaith Gymraeg yn defnyddio ysgrifennu creadigol a ffurfiau celf eraill i gefnogi pobl sy’n gaeth i sylweddau ac mae wedi bod yn gweithio gyda chwnselwyr, Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau a chymdeithasau tai, ymysg eraill, i helpu pobl i gael gafael ar gymorth mewn ffordd wahanol. 

Wrth i HARP ddod i ben, mae profiadau ac effaith prosiectau fel Ar y Dibyn wedi cyfrannu at gyfres gynhwysfawr o argymhellion ar gyfer llunwyr polisi a phenderfyniadau Cymru, yn ogystal ag arweinwyr gofal iechyd, ymchwilwyr a buddsoddwyr, gyda’r nod o sicrhau mwy o gefnogaeth i ddulliau gweithredu creadigol ac arloesol yn system iechyd a gofal Cymru yn y dyfodol.

Ymysg yr argymhellion, a gyhoeddwyd gan HARP, mae galwad am i’r celfyddydau ddod yn rhan ganolog o gynlluniau ar gyfer ‘Cymru Iachach’ fel y mae chwaraeon ar hyn o bryd. Mae HARP hefyd yn argymell bod llunwyr polisi yn nodi ac yn ariannu cydweithredu rhwng cyrff celfyddydol a chyrff iechyd ar faterion allweddol, fel iechyd meddwl; presgripsiynu cymdeithasol; a chefnogi lles staff iechyd a gofal.
 

Mae timau HARP hefyd wedi cyd-ddylunio model ar gyfer arloesi ym maes y celfyddydau ac iechyd, o’r enw ‘Dull Gweithredu HARP’, sydd wedi’i ddylunio i rymuso’r rheini sy’n rhedeg prosiectau celf ac iechyd i ofyn am y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu a chael mynediad iddo.

Dywedodd Rosie Dow, rheolwr rhaglen yn Nesta Cymru: “Er gwaethaf heriau’r ddwy flynedd diwethaf, mae’r prosiectau rydyn ni wedi gweithio gyda nhw wedi dod â rhai syniadau a phartneriaethau anhygoel yn fyw, gan roi cipolwg i ni o’r hyn sy’n bosibl os bydd sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd i arloesi. 

“Os ydym am gael Cymru iachach, mae angen i gyllidwyr, arweinwyr iechyd a gofal, a llunwyr polisïau i gydnabod potensial y prosiectau hyn yn awr a sicrhau eu bod yn cael y buddsoddiad a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i dyfu a chyrraedd mwy o bobl.”

Dywedodd Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen y Celfyddydau, Iechyd a Lles yng Nghyngor Celfyddydau Cymru: “Mae ein buddsoddiad mewn prosiectau Celfyddydau ac Iechyd dros nifer o flynyddoedd wedi darparu tystiolaeth rymus bod gan y celfyddydau rôl ganolog o ran cefnogi iechyd a lles pobl. Mae’r pandemig wedi tanlinellu pa mor berthnasol ac angenrheidiol yw cyfleoedd creadigol o ran hunanfynegiant, cysur, hwyl, cysylltiad cymdeithasol, ymlacio, ysgogiad yn ogystal â diddanwch.

“Mae Rhaglen HARP wedi ymateb i’r heriau iechyd presennol mewn ffyrdd deinamig, cyffrous ac arloesol, gan arwain at ddull gweithredu gwahanol, dysgu cyfoethog a nifer o argymhellion pwysig yn dod i’r amlwg. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid ym maes Iechyd i edrych ar sut gallwn ni ymateb ar y cyd i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu elwa o’r manteision iechyd a lles y gall y celfyddydau eu cynnig.”


Dywedodd Nesta-Lloyd Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Conffederasiwn GIG Cymru: “Drwy bandemig COVID-19, mae’r celfyddydau wedi chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gefnogi iechyd a lles pobl yng Nghymru, fel yr amlygwyd gan y prosiectau hyn sy’n cael cymorth gan HARP.


“Ar draws y system iechyd a gofal mae dealltwriaeth gynyddol y gall mynediad at gyfleoedd celfyddydol a chyfranogiad yn y celfyddydau wella canlyniadau iechyd a lles yn ddramatig, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chynyddu ymgysylltiad cymdeithasol.

“Mae arweinwyr y GIG yn cydnabod bod angen i greadigrwydd a’r celfyddydau fod yn rhan o’r ateb i helpu i fynd i’r afael â chanlyniadau iechyd anuniongyrchol COVID-19, nawr ac yn y dyfodol, a rhaid i ni weithio gyda phartneriaid ar draws pob sector i alluogi darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.”

Dywedodd James Lewis, Cyfarwyddwr Y Lab Prifysgol Caerdydd: “Mae’r cyfuniad o ymchwil o ansawdd uchel a chreadigrwydd gwirioneddol yn aml yn arwain at arloesi sy’n gallu cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, ac mae HARP yn dangos y dull gweithredu hwn. 

“Rydym wedi gweithio ochr yn ochr â’r timau, arweinwyr iechyd a chyfranogwyr yn ystod eu proses arloesi HARP i gefnogi eu defnydd o ddulliau ymchwil a gwerthuso priodol. Ac mae ein grŵp Cyfranogiad y Cyhoedd a Phrofiad Cleifion mewn Ymchwil (PIPER) HARP wedi rhoi llais cryf i ddefnyddwyr gwasanaethau fel sail i’n gwaith ymchwil o ddylunio ac arwain ein heffaith mewn lle diogel a chynhwysol.

“Rydyn ni’n credu bod dull gweithredu HARP yn rhoi lle i fwy o greadigrwydd ac arloesi yn y ffordd mae ein systemau iechyd yn gosod eu heriau ac yn ceisio creu atebion.”


Bydd cyfres o ddigwyddiadau rhannu ar-lein HARP yr wythnos hon yn edrych ar sut mae cynhyrchu, tyfu a dysgu am arloesi creadigol sy’n cefnogi iechyd a lles pobl yng Nghymru. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan gofrestru ar-lein yma.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i gael cyfweliad, cysylltwch ag Iwan Llwyd, Swyddog Cyfathrebu yng Nghyngor Celfyddydau Cymru neu Leah Oatway, cydlynydd cyfathrebu HARP, yn leah_oatway@hotmail.com.
 

Mae adnoddau ar-lein HARP, ynghyd â holl straeon y prosiectau, ar gael yn www.healthartsresearch.wales 

 

  • DIWEDD –

 

Nodiadau i olygyddion:

Gwybodaeth am HARP (Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil, Pobl)

Mae HARP – partneriaeth Iechyd, y Celfyddydau, Ymchwil, Pobl – wedi archwilio sut gallwn gynhyrchu, tyfu a dysgu am arloesi creadigol effeithiol sy’n cefnogi iechyd a lles pobl Cymru. Roedd yn bartneriaeth arloesi ac ymchwil rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Nesta ac ‘Y Lab’ Prifysgol Caerdydd.

 

Roeddem yn ceisio dysgu mwy am sut y gellid cyflawni’r cyfleoedd ac ateb yr heriau hyn, gan gyfuno cyllid grant ag adeiladu rhwydwaith, hyfforddi ac ymchwil ar gyfer arloeswyr yn y celfyddydau ac iechyd. Fe wnaethpwyd hynny gyda chymorth tîm People Powered Results Nesta, Rhwydwaith Iechyd a Lles Celfyddydau Cymru a Chydffederasiwn GIG Cymru.

 

Gwybodaeth am Y Lab

Y Lab yw Labordy Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae’r Labordy, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, yn cyfuno dulliau arloesi a meddylfryd ag ymchwil gwyddor gymdeithasol i gwrdd â heriau cymdeithasol.

 

Gwybodaeth am Gyngor Celfyddydau Cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru yw corff cyhoeddus swyddogol y wlad ar gyfer ariannu a datblygu’r celfyddydau. Bob dydd, mae pobl ledled Cymru yn mwynhau ac yn cymryd rhan yn y celfyddydau. Rydyn ni’n helpu i gefnogi a thyfu’r gweithgaredd hwn. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio’r arian cyhoeddus a ddarperir i ni gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddosbarthu’r arian a dderbyniwn fel achos da gan y Loteri Genedlaethol. Drwy reoli a buddsoddi’r cronfeydd hyn mewn gweithgarwch creadigol, mae Cyngor y Celfyddydau yn cyfrannu at ansawdd bywyd pobl ac at les diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.

Gwybodaeth am Nesta
Nesta yw’r asiantaeth arloesi yn y DU ar gyfer lles cymdeithasol. Rydyn ni’n dylunio, yn profi ac yn graddio atebion i broblemau mwyaf cymdeithas. Mae Nesta Cymru’n bodoli i wella bywydau degau o filoedd o bobl yng Nghymru yn sylweddol. Ein tair cenhadaeth yw rhoi cychwyn teg i bob plentyn, helpu pobl i fyw bywydau iach, a chreu dyfodol cynaliadwy lle mae’r economi’n gweithio i bobl ac i’r blaned. Mae tîm Nesta Cymru yn datblygu ac yn cyflawni gwaith sy’n canolbwyntio ar genhadaeth sy’n unigryw i Gymru, gan ddod o hyd i lefydd lle mae datganoli’n caniatáu i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach wrth gyflawni ein nodau. 

 

Gwybodaeth am Gonffederasiwn GIG Cymru
Conffederasiwn GIG Cymru yw’r unig gorff aelodaeth cenedlaethol sy’n cynrychioli’r holl sefydliadau sy’n rhan o’r GIG yng Nghymru. Rydym yn cynrychioli’r saith Bwrdd Iechyd lleol, tair ymddiriedolaeth GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydym yn rhan o Gonffederasiwn y GIG ac yn cynnal Cyflogwyr GIG Cymru.

 

CRYNODEBAU O BROSIECTAU HARP
Mae rhagor o wybodaeth am y prosiectau hyn ar gael ar gais.


Ar y Dibyn 

Partneriaeth dan arweiniad Theatr Genedlaethol sy’n darparu gweithdai creadigol Cymraeg fel rhan o’r ddarpariaeth adfer ar gyfer grwpiau o bobl sy’n ddibynnol ar sylweddau, mewn cymysgedd o leoliadau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Cefnogir y prosiect gan Fwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau, Llenyddiaeth Cymru, Adra (Tai) gydag atgyfeiriad a chefnogaeth gan Adferiad Recovery, Stafell Fyw, Shelter Cymru, Canolfan Abbey Road a llawer mwy.
 

Digital Threads

Rhaglen gerddoriaeth a barddoniaeth ar-lein sydd â’r nod o gadw cleifion mewnol â dementia yn Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerdydd yn weithgar yn wybyddol ac wedi’u cysylltu’n gymdeithasol yn ystod y pandemig. Roedd hon yn bartneriaeth rhwng Forget Me Not Chorus, yr artistiaid Louise Osborn ac Emma Jenkins, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae bywydau pawb a gymerodd ran wedi cael eu hadlewyrchu, eu hanrhydeddu a’u dathlu mewn caneuon, barddoniaeth a chelf weledol.


Creative Options 

Partneriaeth rhwng Arts Care Gofal Celf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau creadigol i oedolion yn Sir Gaerfyrddin sy’n byw gyda heriau iechyd meddwl, sydd mewn gwasanaethau cleifion mewnol a lleoliadau byw â chymorth neu ofal preswyl.

Art Well

Cydweithrediad rhwng Celfyddydau SPAN, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), cysylltwyr cymunedol PAVS, Cyngor Sir Benfro, a hyb cydlynu ymchwil, arloesi a gwella Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda’r nod o feithrin gwytnwch unigolion a chymunedau ynysig yn Sir Benfro drwy gôr o bell, theatr gymunedol ar-lein (Theatr Soffa) ac ysgrifennu ar gyfer sesiynau llesiant.

Rhaglen y Celfyddydau ac Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Celfyddydau Iechyd Gwent, Head4Arts ac ymarferwyr unigol i ddarparu gweithgareddau creadigol amrywiol sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl ar gyfer gwahanol grwpiau, gan gynnwys pobl ifanc a rhai sydd mewn profedigaeth, lle bu’r tîm yn edrych ar sut i wreiddio’r celfyddydau yn y bwrdd iechyd. Maent wedi datblygu strategaeth gelf gyntaf y bwrdd.


Cystic Fibrosis Voices
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi ffurfio partneriaeth â Four in Four i ddarparu sesiynau celfyddydau ar-lein rhyngweithiol i bobl sydd â ffibrosis systig, yn ogystal â staff, gyda nifer o gymhellion, gan gynnwys canfod ffyrdd y gallai’r celfyddydau creadigol ail-lunio gwasanaethau ffibrosis systig yn y dyfodol, helpu pobl sy’n byw gyda’r cyflwr a staff sy’n ymateb i ddeinameg gofal sy’n newid. 

 

HARBWR
Adeiladodd HARBWR ar bartneriaethau rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, artistiaid, sefydliadau celf, y trydydd sector a chynghorau lleol i ddatblygu a phrofi model celf-ar-bresgripsiwn newydd yn yr ardal. Arweiniodd hefyd at lansio fforwm iechyd a chelfyddydau traws-ddisgyblaethol gyda Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Lles Cymru.

Joio
Prosiect aml-bartneriaeth rhwng sefydliad dawns Impelo,  Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Dementia Matters Powys i ddatblygu a chreu’r dystiolaeth ynghylch ‘Joio’, rhaglen ddawns ar-lein wedi’i chyd-gynllunio ar gyfer pobl hŷn sy’n byw gyda phroblemau cof a’u gofalwyr, gan eu cefnogi i gadw’n heini a chynnal cysylltiad cymdeithasol.

Seren

Roedd Seren yn brosiect aml-bartneriaeth Nourish HARP rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a’r partneriaid celfyddydol Tanio, Sue Hunt, Glen Manby ac Uschi Turozy.
Roedd yn defnyddio creadigrwydd i fynd i’r afael â thrawma a dryswch pobl hŷn a oedd yn gwella ar ôl Covid-19 yn yr ysbyty maes ac yna yn y gymuned. Bu’r tîm hefyd yn gweithio gyda staff gofal iechyd i ddod â chreadigrwydd i faes lles.

Spark
Mae’r bartneriaeth rhwng Re-Live, Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys yn cysylltu oedolion hŷn sy’n teimlo’n ynysig ac yn unig â chymuned greadigol newydd ar-lein. Bu’n gweithio ochr yn ochr â phobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl cymhleth, dementia a dibyniaeth.

Cit Cymorth Cyntaf Creadigol
Mae Cyngor Sir Ddinbych, Hamdden Sir Ddinbych a’r artistiaid Mari Gwent a Steffan Donnelly yn cyd-gynhyrchu adnodd celfyddydol cynaliadwy ac arloesol ar gyfer staff gofal rheng flaen er mwyn dod â chreadigrwydd a phositifrwydd i’w harferion bob dydd.

Doing the Write Thing
Roedd Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi ffurfio partneriaeth ag artistiaid llawrydd, Ali Goolyad ac Eric Ngalle Charles, i ddarganfod straeon pandemig Covid-19 o safbwynt gweithwyr gofal iechyd Du y GIG, myfyrwyr gofal iechyd a hyfforddeion yng Nghymru.

Messages of Hope

Partneriaeth rhwng New Pathways a’r artistiaid llawrydd Matilda Tonkin Wells a Jain Boon i feithrin gwytnwch goroeswyr trais a cham-drin rhywiol yng Nghymru, eu cadw mewn cysylltiad yn ystod cyfyngiadau symud cysylltiedig â’r pandemig, ac annog goroeswyr yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru i gael mynediad at wasanaethau a chymorth Llwybrau Newydd.