Mae rownd olaf y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol 2021-22 nawr ar agor. Dyddiad cau'r rownd yma yw Dydd Mercher 3 Tachwedd 2021, 5:00yh GMT

Am y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol 

Diben y gronfa 

  • Cefnogi’r broses o ddatblygu syniadau, cydweithio a rhwydweithiau rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a phartneriaid rhyngwladol. 
  • Rhannu profiadau a sgiliau drwy’r celfyddydau mewn cyd-destun byd-eang. 
  • Codi proffil Cymru a’i chysylltiadau drwy’r celfyddydau yn fyd-eang. 


Wrth i ni barhau â'n partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ar Flwyddyn Cymru yn yr Almaen 2021, rydym yn croesawu ceisiadau i'r gronfa ar gyfer datblygu cysylltiadau pellach â'r Almaen.


Yn sgil y cyfyngiadau a’r ansicrwydd presennol sy’n gysylltiedig â theithio yn rhyngwladol, bydd y gronfa yn bennaf yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu perthnasau rhyngwladol, cydweithrediadau a rhwydweithiau trwy’r defnydd o blatfformau ac adnoddau digidol am nawr. 

Gellir cynnwys teithio corfforol ochr yn ochr â gweithgareddau digidol, ond dylai fod gennych gynlluniau wrth gefn rhag ofn na fydd hyn yn bosibl.


Delwedd: 
Cyn-dderbyniwr y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol Andrew Smith yn Mark Rothko Art Centre
17th International Painting Symposium, Daugavpils, Latvia
Medi 2021

Mae dwy gronfa wedi rhestri ar ein tudalen ariannu:
Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol (CCR)
Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl

Mae hwn yn gyfle cyllido ychwanegol, ond chewch chi ddim gwneud cais i CCR ac i Gronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl ar gyfer yr un gweithgaredd.  

Cysylltwch â ni os ydych yn ansicr pa gronfa sy'n briodol i'ch prosiect - info@wai.org.uk