Mae'n bleser gan Oriel Gelf Glynn Vivian gyflwyno Our Visual World: DeafNot, arddangosfa sy’n dod â saith artist byddar o bob rhan o Gymru ynghyd. Mae pob un yn aelod o Our Visual World sy'n cyflwyno gwaith sy'n cydblethu gweithrediaeth, hunaniaeth a hanesion personol.  

Drwy eu gwaith, mae'r artistiaid yn ceisio herio normau cymdeithasol, dathlu hunaniaeth y byddar a chynnig cyfle i gynulleidfaoedd brofi byd drwy lens wahanol - un a lunnir gan iaith weledol, gwydnwch a chreadigrwydd. Mae'r arddangosfa hon yn ddathliad o greadigrwydd a hefyd yn ddatganiad pwerus o amlygrwydd a chymuned.  

Mae Our Visual World yn gymuned fywiog a chynhwysol sy'n ymroddedig i gefnogi artistiaid gweledol byddar ledled Cymru. Crëwyd y rhwydwaith hwn, a ddeilliodd o'r fenter Cysylltu a Ffynnu - prosiect Cyngor Celfyddydau Cymru a arweiniwyd gan Jane Simpson a GS Artists, yn sgîl awydd i gryfhau lleisiau'r byddar ym myd y celfyddydau gweledol. Mae'n meithrin cydweithio, amlygrwydd a thwf creadigol, gan ddarparu llwyfan lle gall artistiaid byddar gysylltu â'i gilydd, rhannu eu gwaith a chael mynediad at gyfleodd wedi'u teilwra i'w profiadau a'u safbwyntiau unigryw eu hunain. Drwy eiriolaeth, gweithdai ac arddangosfeydd arweinir Our Visual World bellach gan artistiaid byddar ac mae'n parhau i adeiladu tirwedd gelfyddydol fwy hygyrch a chynrychioliadol yng Nghymru. 

Mae'r arddangosfa sydd wedi'i chyd-guradu gyda Caitlin Davies o Gaerdydd, y mae ei hymarfer yn canolbwyntio ar fynediad a chydweithio, yn cynnwys ystod amrywiol o gyfryngau, gan gynnwys gosodweithiau, cerfluniau, paentiadau, printiau a ffotograffiaeth - gan roi cipolwg prin a hanfodol i gynulleidfaoedd ar ddiwylliant a phrofiadau bywyd y byddar. 

Artistiaid sy'n rhan o'r arddangosfa: 

Emily Rose Corby 
Artist gweledol byddar o Gymru yw Emily sy'n gweithio gyda chyfryngau cymysg, collage a gosodweithiau. Mae ei gwaith yn archwilio tirwedd emosiynol y profiad o fod yn fyddar. Mae ei hamgylcheddau y gellir ymgolli ynddynt yn adlewyrchu cymhlethdodau cyfathrebu a gorlethu synhwyraidd. Yn 2025, dyfarnwyd Comisiwn Celfyddydau Anabl a/neu Fyddar Celfyddydau Anabledd Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru iddi. 

Kate Evans 
Mae gwaith arddull rhaglen ddogfen Kate, ffotograffydd hunanddysgedig ers 2000, yn cyfleu arwyddocâd taith bywyd. Dychwelodd i'w hymarfer yn y blynyddoedd diweddar, ac mae hi bellach yn arbrofi â chyfryngau cymysg i archwilio themâu amser, cof a hunaniaeth. Mae Kate hefyd yn arweinwyr teithiau Iaith Arwyddion Prydain ac yn hwylusydd gweithdai gydag Our Visual World

Natasha Hirst 
Mae gwaith Natasha yn archwilio themâu colled, cof ac adennill. Gan ddefnyddio llun o'i phlentyndod a throsiad am bioden, mae'n myfyrio ar yr hyn a gymerwyd oddi arni - ei chlyw, ymreolaeth a hygyrchedd. Mae ei llyfr lluniau a'i gosodweithiau barddonol yn rhoi llais i gysgodion ei phrofiadau bywyd, wrth ddathlu gwydnwch a harddwch bywyd byddar. 

Alex Miller 
Mae Alex yn creu gweithiau llachar gan ddefnyddio siapiau organig, dyfrlliwiau, tecstilau a sgrin-brintio. Mae ei gelf yn amlygu'r rhwystrau dyddiol a wynebir gan gymunedau'r byddar a lleiafrifoedd, wrth adeiladu pontydd hefyd â chynulleidfaoedd prif ffrwd. Mae teithio ac archwilio diwylliannol yn ganolog i'w ymarfer, gan ysbrydoli cysylltiadau newydd ac adrodd straeon sy'n seiliedig ar decstilau. 

Clara Newman 

Mae Clara yn artist o Lasinfryn, gogledd Cymru. Mae hi'n astudio Crefftau Dylunio Cyfoes ar hyn o bryd yng Ngholeg Celfyddydau Henffordd. Arweinir ei gwaith gan ddeunyddiau ac mae hi'n creu gwaith sy'n ymwneud â themâu symudiad, diatomau a hawliau'r byddar. Mae wedi cyflwyno'i gwaith yn Deaf Gathering Cymru 2024, ar ôl gweithio gyda'r prosiect Hear We Are i greu dwylo tecstilau.  

Melissa Payne  
Ysbrydolir Melissa, artist a chrëwr dwys-fyddar, gan dirweddau arfordirol ei phlentyndod. Gan weithio ar draws enamel, cerameg, gwydr a thecstilau, mae ei darnau haenog, cyffyrddol yn adlewyrchu ei chysylltiad synhwyraidd â'r byd a'i hymdeimlad dwfn o le a pherthyn. 

Heather Williams  
Mae gwaith Heather, artist rhyngddisgyblaethol a chyd-sylfaenydd Deaf Gwdihŵ, yn archwilio profiadau amlweddog bod yn ddefnyddiwr byddar Iaith Arwyddion Prydain ag ADHD. Mae ei harddangosfeydd diweddar yn cynnwys The Radical Joy of Unmasking yn Cardiff Umbrella. Drwy ei chelfyddyd, mae'n cwestiynu etifeddiaeth addysgu'r byddar drwy siarad a gwrando a distewi parhaus iaith arwyddion mewn cymdeithas. 

Mewn partneriaeth â GS Artists ac Our Visual World.