Mae cronfa Cyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi artistiaid i weithio gyda chymunedau er mwyn ddatblygu defnydd a pherchnogaeth o’r Gymraeg - yn agor ei thrydedd rownd.
Nod Llais y Lle yw grymuso unigolion creadigol i gydweithio â chymunedau penodol, gan feithrin defnydd ac ehangu perchnogaeth o’r Gymraeg.
Mae’r gronfa hon yn agored i unigolion neu grwpiau sy’n frwd dros y Gymraeg ac sydd â phrofiad o weithio’n greadigol gyda chymunedau.
Gofynnir i ymgeiswyr gynnig cynllun a fydd yn gosod y Gymraeg wrth galon popeth a wnânt.
Nid oes disgwyl i ymgeiswyr wybod beth fydd y cynnyrch terfynol ond rhaid bod gennych gynllun gweithredu creadigol clir a fydd yn caniatáu Llais canolog i’r Gymraeg ac i’r gymuned - Y Lle.
Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o Gymru ond byddwn yn blaenoriaethu’r meysydd canlynol: Caerffili, Torfaen, y Fflint, Meirionnydd, Sir Benfro, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr.
Lansiwyd Llais y Lle am y tro cyntaf yn 2023 ac mae’n bosibl drwy gefnogaeth hael chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Sut i wneud cais:
Mae’r gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng 24 Chwefror 2025 ac 11 Ebrill 2025.
Sesiynau Gwybodaeth:
Bydd Hwylusydd y Gymraeg Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal tair sesiwn wybodaeth ar-lein am y gronfa, manylion i ddilyn.
Am fwy o fanylion, ewch i: https://arts.wales/funding/individuals/llais-y-lle
“Mae Llais y Lle yn wahanol i gronfeydd eraill am ein bod yn cydweithio a rhannu gydol yr amser. Byddwch yn cael eich cefnogi, eich annog a’ch herio wrth i ni gydweithio i fynd i’r afael â’r her. Mae angen, profiad a photensial pob cymuned yn wahanol ac mae’r amrywiaeth o gynlluniau sydd wedi eu cynnal eisioes yn adlewyrchu hyn. Dyma’ch cyfle chi. Os oes gennych syniad, rhowch gynnig arni. Efallai gewch chi hwyl hefyd!”
Einir Sion, Hwylusydd y Gymraeg, Cyngor Celfyddydau Cymru
Cefnogodd Llais y Lle 17 o brosiectau gwreiddiol yn 2024. Dyma rai enghreifftiau:
Fran Higginson – Y Fenni
Mae Fran yn therapydd cyfannol ac yn ddysgwr Cymraeg. Mae ei phrosiect yn cynnwys labordy gwaith llawr Cymraeg gyda dawnswyr cymunedol sy’n canolbwyntio ar eirfa ar gyfer symud, a chyfansoddi barddoniaeth ar y cyd ar gyfer y cysylltiad cinetig rhwng y corff dynol a’r ddaear. Bydd y broses yn cael ei dal mewn ffilm, a grëwyd mewn cydweithrediad ag artist-ffilmiwr niwroamrywiol, di-Gymraeg. Yma, daw’r Gymraeg yn arf gweithredol ar gyfer meithrin dealltwriaeth ac agosatrwydd ar hyd y daith greadigol.

Eadyth Crawford - Merthyr
Mae “Y KandE Collective” yn brosiect blwyddyn o hyd, a gefnogir gan Ganolfan Soar a Menter Iaith Merthyr Tudful, sy’n cysylltu cymuned Merthyr trwy gerddoriaeth, celfyddydau, a pherfformiadau i ysbrydoli dysgu Cymraeg. Trwy weithdai, creu cerddoriaeth ar y cyd, perfformiadau byw, a gosodiad celf cyhoeddus, mae’r prosiect yn creu profiad iaith atyniadol a deinamig.

Rhiannon Mair, Pontiets, Sir Gaerfyrddin
Mae Rhiannon yn ymarferydd theatr a pherfformio, ac yn ymchwilydd creadigol. Bu’n gweithio gyda Chyngor Cymuned Llangyndeyrn a chapel lleol i edrych ar hanes y Twrch Trwyth, baedd gwyllt bendigedig o chwedlau’r Brenin Arthur. Yn ôl y sôn, daeth y Twrch Trwyth trwy Bontiets a bydd Rhiannon yn dychmygu’r llwybr a gymerodd, gan edrych ar hen hanes yr ardal, yn ogystal ag hanes a mwy diweddar, ar hyd y ffordd. Bydd y daith yn mynd drwy’r pentref ac ar hyd llwybr yr hen draciau rheilffordd a arferai gludo glo o’r dyffryn i’r môr. Bydd y daith yn dod yn sylfaen i weithgarwch creadigol Cymraeg yr ardal.