Mae Cydrannu yn ariannu'r gwaith o greu neu gryfhau rhwydweithiau er mwyn datblygu cyfleoedd rhwydweithio ar draws y sector diwylliannol.

Mae'r gronfa yn croesawu gwahanol fathau o syniadau ond rydym yn awyddus iawn i dderbyn ceisiadau gan rwydweithiau sy'n canolbwyntio ar y canlynol ac yn mynd ati i ymgysylltu â nhw:

  • pobl o gefndir a phrofiad personol amrywiol
  • pobl Fyddar, anabl a niwroamrywiol
  • cymunedau ethnig a diwylliannol amrywiol
  • y rhai nad ydynt yn cael yr un cyfleoedd i ymgysylltu â'r celfyddydau oherwydd nifer o rwystrau gan gynnwys cost neu ble maen nhw'n byw ond heb fod yn gyfyngedig i’r ffactorau hyn ychwaith

Mae gan Gydrannu arian ar gael ar gyfer prosiectau untro ar raddfa fach yn 2023/24. Gallwn gynnig hyd at £3,000 ar gyfer pob prosiect.

Dyma rai esiamplau o fentrau diweddar a ariannwyd gan Gydrannu:

Shari Llewelyn“Rhwydwaith dyslecsia yng Nghymru”

Rhwydwaith i dynnu sylw at y diffyg darpariaeth i siaradwyr Cymraeg gyda dyslecsia, gan ddod ag unigolion a sefydliadau ynghyd i archwilio sut y gall y celfyddydau godi ymwybyddiaeth a gwella pethau yng Nghymru.

 

Uchelgais Crand – "Cysylltiadau Crand"

Rhwydwaith creadigol o gymunedau sy'n byw yn ardal cod post SA1 yn Abertawe - gyda'u gwreiddiau mewn profiad y dosbarth gweithiol ac mewn profiad personol o ddioddef gwahaniaethu. Roedd y rhwydwaith yn ymgysylltu â chymunedau y tu allan i fynychwyr rheolaidd y theatr, er mwyn hyrwyddo perchnogaeth a gwneud lleoedd mewn theatrau’n fwy perthnasol.

 

Gwnaed â Llaw Caerdydd (CIC) – "Y Ddolen Gwnaed â Llaw"

Cyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio dan arweiniad menywod (ac i fenywod) o gefndir ethnig a diwylliannol amrywiol o'r gymuned LHDTC+ yn y sector creadigol i gynyddu cyfranogiad a chreu cymunedau i gefnogi'r rhai sy'n ynysig ac sy’n cael eu tangynrychioli.

13 Gorffennaf 2023 yw’r dyddiad cau ar gyfer cynigion am 2023/24.