Hyfforddiant ar Lyfr Gwyrdd y Theatr: Dydd Gwener 28 Tachwedd, 11am-3pm
Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
£20 i aelodau Creu Cymru a £25 i bawb arall
Darperir lluniaeth a chinio ysgafn
Yn ystod y diwrnod byddwch yn cael:
- Cyflwyniad i’r cynllun, a chyfle i edrych yn fanwl ar sut i ddefnyddio’r wefan a chofrestru, a throsolwg o’r cyfrifianellau cynhyrchu, gweithrediadau ac adeiladau
- Cyfle i ddysgu sut i integreiddio cynllun Llyfr Gwyrdd y Theatr yn eich gwaith:
Sut i sicrhau cefnogaeth timau artistig, sut i feithrin ethos y cynllun ar draws y tîm cyfan mewn adeilad/cwmni theatr - Sesiwn rhwydweithio a chyfle i glywed y newyddion diweddaraf am weithgarwch Llyfr Gwyrdd y Theatr yng Nghymru