Bydd cerddoriaeth a ysgrifennwyd i ddathlu pen-blwydd y Brenin Charles yn 75 oed yn cael ei pherfformio'n gyhoeddus yng Nghymru am y tro cyntaf mewn gŵyl yng ngogledd Cymru.

Mae detholiad o saith cân a ysgrifennwyd gan un o hynafiaid y Brenin, sef y Tywysog Albert, gŵr y Frenhines Fictoria, wedi'u trefnu gan y cyfansoddwr brenhinol Paul Mealor, cyfarwyddwr artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.

Byddant yn cael eu perfformio am y tro cyntaf yng Nghymru mewn cyngerdd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a'r tenor enwog Gwilym Bowen am 7pm nos Wener, Medi 19. Bydd y perfformiad yn cael ei recordio'n fyw ar gyfer BBC Radio 3 a BBC Radio Cymru.

Mae'n bosib cynnal yr Ŵyl dioch i gefnogaeth arbennig gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine, Celfyddydau a Busnes Cymru a Tŷ Cerdd.

Mae'r Athro Mealor wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhai o achlysuron gwladol a brenhinol pwysicaf y degawd diwethaf, gan gynnwys y Kyrie, sef y tro cyntaf i'r Gymraeg ymddangos mewn seremoni Coroni ac a ganwyd mor hyfryd gan Syr Bryn Terfel yn ystod coroni'r Brenin Charles yn 2023.

Dywedodd Paul Mealor fod y Tywysog Albert a'r Frenhines Victoria yn bianyddion a chantorion medrus, ac mai'r cyfansoddwr nodedig, Felix Mendelssohn, oedd eu harwr cerddorol. Roedd Mendelssohn yn ymwelydd cyson â Phalas Buckingham ac yn chwarae'r piano i'r pâr brenhinol gan hyd yn oed lwyddo i’w perswadio i ganu gydag ef.

Yn ystod ei ymweliadau â Phrydain byddai Mendelssohn yn ymweld â'r Alban a dywedir mai ef a gyflwynodd y frenhines i'r Alban ac mai oherwydd ei ddylanwad ef y prynwyd ystâd Balmoral gan y Tywysog Albert yn 1852. Ac fe addysgwyd y Tywysog Albert yn y grefft o gyfansoddi gan Mendelssohn. Treuliodd Albert llawer o'i amser wrth y piano yn cyfansoddi gan ysgrifennu dros 150 o ganeuon. Cefais fy nghomisiynu gan y Brenin Charles III i drefnu rhai o'r caneuon hyn i ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed yn 2023.”

"Dewisais saith o ganeuon y Tywysog Albert ar gyfer y Liederkreis, neu gylch caneuon, ar gyfer y gyfres hon. Maen nhw wedi'u hysgrifennu yn Almaeneg, sef yr iaith yr oedden nhw’n siarad â'i gilydd, ac maent yn ganeuon bach hardd ar gyfer llais a phiano sy'n sôn am gariad y Tywysog Albert tuag at y Frenhines. Cafodd fy nhrefniannau cerddorfaol eu perfformio gyntaf yng Nghastell Windsor a'r perfformiad yn Llanelwy fydd y tro cyntaf iddyn nhw gael eu perfformio yng Nghymru".

Yn ogystal â'r Liederkreis, bydd Cerddorfa Genedlaethol y BBC hefyd yn chwarae sgôr gerddorfaol gyntaf Grace Williams, ‘Hen Walia’, Agorawd yr ‘Hebrides’ gan Mendelssohn a Phumed Symffoni Beethoven.

Mae tocynnau a rhagor o fanylion am raglen yr Ŵyl ar gael ar-lein yn https://nwimf.com. Mae tocynnau hefyd ar gael o Cathedral Frames, Llanelwy - 07471 318723 (Dydd Mercher – Dydd Gwener, 10 - 4) a Theatr Clwyd dros y ffôn - 01352 344101 (Dydd Llun – Dydd Sul, 10 - 8).