Mae llu o awduron a chelfyddydwyr rhyngwladol yn cydgynnull yng ngorllewin Cymru dros yr wythnos nesaf i gymryd rhan yn y Coracle Europe Fringe. Ers 2018 mae'r ŵyl amlddisgyblaethol hon wedi dathlu'r cysylltiadau rhwng cymuned gelfyddydau lleol Sir Gaerfyrddin a rhwydweithiau celfyddydol rhyngwladol, yn enwedig yn Sweden, Iwerddon a Gogledd America, a ddatblygwyd gan drefnwr yr ŵyl wite4word CIC.
Eleni mae'r ŵyl yn para am 6 diwrnod gan ddechrau gyda noson o berfformiad amlddiwylliannol yn y lleoliad cerddoriaeth eiconig CWRW ar Stryd y Frenhines, Caerfyrddin. Mae Gloria Blizzard yn awdures ddu o Ganada, ac i ddathlu mis hanes Du mae hi'n gwneud taith unigryw yn y DU, gan berfformio ym Mhrifysgol Bryste a Llundain cyn dod i Gaerfyrddin. Mae Gloria yn awdures ac yn ysgrifennu traethodau, ac mae ei chasgliad cychwynnol anrhydeddus Black Cake, Turtle Soup, and Other Dilemmas yn archwilio hunaniaeth, perthyn, a rhythmau bywyd Du. Mae ei gwaith yn cyfuno naratif personol, hanes diwylliannol, a cherddoriaeth.
Bydd darlleniad llyfr Gloria am 7yh yn cael ei ddilyn gan lansiad llyfr a darllen barddoniaeth o Breaking the Skin of Paradise gan y bardd Gwyddelig, Jana Orlová, sydd wedi'i leoli ym Mhrah. Mae'r cerddi wedi'u cyfieithu i'r Saesneg ac wedi'u cyhoeddi gan gyhoeddwr Gorllewin Cymru, Iconau Books.
Mae mynediad i'r holl ddigwyddiadau yn y ŵyl am ddim, a'r uchafbwyntiau yn cynnwys digwyddiadau hybrid, Slam Barddoniaeth Coracle Europe a mic agored geiriau llafar. Sesiynau sgwrs a Cwestiynau ac Atebion gyda Peter E Murphy o'r UD, darlleniadau gan Steve Huenneke o Iwerddon, gweithdai Barddoniaeth, Stori Ddweud a Gwaith Ysgrifennu Queer gan Dominic Williams, Lottie Williams a Jo Lambert. Bydd perfformiadau gan awduron gweithgar Natsha Borton a Gemma June Howell, sinema dros dro a gweithdai crefft mewn cydweithrediad gyda ffrindiau gwych yr ŵyl Criwdem Celf.
Mae digon o ddigwyddiadau eraill yn rhoi llwyfan i ysgrifenwyr a chynulleidfaoedd lleol gan gynnwys cerddoriaeth gan Coron Moron, a bydd digwyddiadau gyda Menna Elfyn, Llywydd PEN Cymru, yn cynnwys darlleniadau mewn tair iaith, Cymraeg, Saesneg ac Arabeg.
Rhaglen lawn yma: