Datganiad gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, Arts Council England ac Arts Council Northern Ireland.

 

A ninnau’n asiantaethau cenedlaethol sy’n datblygu’r celfyddydau ym mhedair cenedl y Deyrnas Unedig, rydyn ni’n cydweithio ar hyn o bryd i ddatblygu ffyrdd o barhau i gefnogi symudedd artistiaid a chwmnïau rhyngwladol i mewn i’r Deyrnas Unedig, ac i gefnogi artistiaid a chwmnïau  y DU i weithio’n rhyngwladol.

Un ffordd o wneud hyn yw drwy Wybodfan Celf y DU. Cynllun peilot yw hwn i gefnogi’r sector celfyddydau gyda gwybodaeth yn rhad ac am ddim ynghylch materion ymarferol sy’n ymwneud â symudedd artistiaid.

Bydd 2021 yn rhoi cyfres newydd o heriau i artistiaid a chwmnïau sy’n gweithio yn rhyngwladol, gyda rheolau newydd yn cael eu cyflwyno yn sgil y Cytundeb Masnach a Chydweithredu diweddar rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Bydd y rheolau hyn yn effeithio ar y rheini sy’n trefnu ymweliadau gan artistiaid rhyngwladol a’r rheini sy’n mynd â’u gwaith y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Mae prif bwyslais Gwybodfan Celf y DU ar artistiaid a chwmnïau rhyngwladol sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig.Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod bod gan y sector celfyddydau anghenion a phryderon ar hyn o bryd wrth geisio deall sut mae’r rheolau newydd yn gweithio’n ymarferol, a byddwn yn ceisio’u helpu yn hyn o beth.

 

Dyma rywfaint o’r gwaith y bydd Gwybodfan Celf y DU yn ei wneud dros y flwyddyn nesaf:

  • Datblygu porth ar y we er mwyn casglu, mewn un lle, wybodaeth ac adnoddau defnyddiol sy’n ymwneud â materion ymarferol ym maes symudedd artistiaid i’r Deyrnas Unedig – pethau fel fisas, trwyddedau gweithio, trethi a nawdd cymdeithasol.

 

  • Cyfeirio pobl at y wybodaeth a’r adnoddau sydd wedi’u datblygu gan brif gyrff y sector yn y Deyrnas Unedig am symudedd artistiaid allan o’r Deyrnas Unedig, ynghyd â’u cyfeirio at bartneriaid y Wybodfan ledled yr Undeb Ewropeaidd ac yn fyd-eang.

 

  • Gweithio gyda phartneriaid i drefnu digwyddiadau rhithiol a gweminarau am bynciau penodol fel fisas a thrwyddedau gwaith neu symudedd artistiaid, gan roi sylw i wledydd penodol.

 

  • Ymchwilio a chasglu data am yr heriau mwyaf sy’n wynebu artistiaid rhyngwladol, a defnyddio’r wybodaeth hon i eirioli dros anghenion y sector celfyddydau ac i ddod o hyd i atebion.

 

  • Profi datblygiad gwasanaeth ymholiadau a gwybodaeth i artistiaid.

 

Bydd y gwaith yn cael ei wneud fesul cam, gan ymateb i anghenion y sector ac ymarferoldeb sut mae modd i gwmnïau ddechrau gweithio a symud yn rhyngwladol eto. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi cyn hir ar y wefan. Os hoffech chi roi dolenni i unrhyw wybodaeth, digwyddiadau neu adnoddau perthnasol y mae’ch sefydliad chi wedi’u creu, cysylltwch â infopoint@wai.org.uk 

 

Mae cynllun Gwybodfan Celf y DU yn cael ei arwain gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sef asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, ac mae wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â Creative Scotland, Arts Council England ac Arts Council Northern Ireland.

 

Rydyn ni’n gweithio gyda Tamizdat ac Ysgol y Gyfraith (Prifysgol Caerdydd) i ddatblygu model y Wybodfan.Mae Gwybodfan Celf y DU yn rhan o rwydwaith On the Move o wybodfannau yn rhai o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd ac yn fyd-eang.

 

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn cefnogi Gwybodfan Celf y DU.

Partner logos