Ydych chi’n adnabod rhywun sy’n gwneud gwaith rhagorol ym maes ymgysylltu, cyfranogi neu ddysgu yn y celfyddydau gweledol?

Mae Gwobrau Marsh am Ragoriaeth mewn Ymgysylltu yn y Celfyddydau Gweledol yn dathlu gwaith caled ac ymroddiad cydweithwyr sy’n gweithio ym maes cyfranogi ac ymgysylltu yn y celfyddydau gweledol.

Mae Engage, prif elusen y DU ar gyfer hyrwyddo ymgysylltu yn y celfyddydau gweledol, ac Ymddiriedolaeth Elusennol Marsh yn falch i gyhoeddi bod enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Marsh 2025. Mae’r gwobrau hyn yn dathlu unigolion a thimau, boed yn llawrydd, yn gyflogedig neu’n wirfoddolwyr, sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol at ddysgu, cyfranogi ac ymgysylltu yn y celfyddydau gweledol, yn y DU ac yn rhyngwladol, drwy gydol 2025.

Bydd yr enillwyr yn derbyn £500, ynghyd â chael sylw i’w gwaith gan Engage.
 

Dyddiad cau: 19/12/2025