Siaradodd y cynhyrchwyr o Gymru, Alice Lusher a Catryn Ramasut o Gynyrchiadau ieie gydag arweinydd cymunedol Wales-Somaliland Link, Ali Abdi, a'r cyflwynydd Zaynab Ahmed am eu cyd-gynhyrchiad newydd Brides.
Fe drafododd y panel sut y daethon nhw â ffilm nodwedd gyntaf Nadia Fall i Gymru, pwysigrwydd cymuned Somaliland Cymru yn cael ei gweld ar y sgrin, a pha mor unigryw oedd bod yn rhan o dîm cynhyrchu benywaidd Brides.
Fe wnaethom hefyd gomisiynu'r awdur a'r ymchwilydd o Syria sy’n byw yn Abertawe, Hadeel Alfaraj, i ysgrifennu darn am y ffilm, yn ogystal â'i phrofiad ei hun o adael Syria a dod o hyd i gartref newydd yng Nghymru.
Yn dod i sinemâu 26 Medi 2025, mae Brides yn stori dod i oed am ddwy ferch yn eu harddegau sy'n chwilio am ryddid, cyfeillgarwch a pherthyn, sy'n dianc o'u bywydau yn y DU gyda chynllun peryglus i deithio i Syria. Cafodd ei ffilmio'n rhannol ar leoliad yng Nghaerdydd, y Barri, Aberogwr, Southerndown a Phorthcawl.
Cefnogwyd Brides gan y BFI a Ffilm Cymru Wales, y ddau yn dyfarnu arian y Loteri Genedlaethol, a Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol.
Dewch o hyd i fwy o bodlediadau sain Gwnaethpwyd yng Nghymru sy'n dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig ar Apple Podcasts, Spotify, Amazon Music neu'n uniongyrchol ar Buzzsprout. Dilynwch ni ar Instagram, Letterboxd a Youtube am fideos o sesiynau holi ac ateb ac erthyglau golygyddol.
Mae 'Gwnaethpwyd yng Nghymru' yn brosiect Canolfan Ffilm Cymru, sy'n dathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau Cymreig. Fe'i cefnogir gan gyllid gan Gymru Greadigol a chyllid y Loteri Genedlaethol drwy'r BFI.