Ymunwch â Gwybodfan Celf y DU, Cultuurloket a DutchCulture mewn gweminar ar-lein yn rhad ac am ddim i ddysgu am symudedd dros dro artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol o’r DU i Wlad Belg a’r Iseldiroedd.

Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar symudedd dros dro ynghyd â symudedd dros y ffin (i Wlad Belg ac i’r Iseldiroedd mewn un daith, er enghraifft). Gweminar yw hon ar gyfer sefydliadau, cwmnïau celfyddydol a gweithwyr creadigol proffesiynol yn y sector yn y DU. Y nod yw rhoi trosolwg o’r pethau sydd wedi newid ers i’r DU adael yr UE a dangos sut y gall gweithwyr proffesiynol baratoi i weithio dros y ffin yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg o hyn allan. Mae croeso i weithwyr proffesiynol o Wlad Belg a’r Iseldiroedd sy’n awyddus i wahodd artistiaid o’r DU ymuno â’r sesiwn.

Bydd y weminar yn canolbwyntio ar symudedd pobl: artistiaid unigol, cwmnïau, technegwyr a gweithwyr diwylliannol proffesiynol eraill sy’n mynd i Wlad Belg a/neu i’r Iseldiroedd i weithio. Bydd y pynciau canlynol yn cael sylw: fisas a thrwyddedau preswylio; rheoliadau a thrwyddedau gwaith; cyfraniadau nawdd cymdeithasol a threth.

Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan Stijn Michielsen o Cultuurloket a Laurens Meijer o DutchCulture, ac yn cael ei hwyluso gan Marie Fol, Llywydd bwrdd On the Move.

Sylwch y bydd y weminar hon yn cael ei chynnal yn Saesneg.

Mae Gwybodfan Celf y DU yn bartneriaeth rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, Arts Council England ac Arts Council Northern Ireland.