A allai eich creadigrwydd helpu i ledaenu’r Sgwrs Genedlaethol am les meddyliol?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru am gomisiynu 6 artist i greu cynnwys digidol o ansawdd uchel ar y thema “gweithredu ysbrydoledig i ddiogelu a hyrwyddo lles meddyliol”. Bydd hyn yn cefnogi Hapus – ein rhaglen hirdymor i helpu i ddiogelu a gwella lles meddyliol pobl yng Nghymru.

Mae sawl elfen yn gysylltiedig â rhaglen Hapus, a phob un wedi'i hanelu at annog pobl i flaenoriaethu eu lles meddyliol ac i ymgysylltu â gweithgarwch sy'n cefnogi’r lles hwnnw. Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a chymunedol, yn codi ymwybyddiaeth o'r sylfaen dystiolaeth bresennol ynglŷn â’r hyn sy'n gweithio ar gyfer lles, yn adeiladu rhagor o dystiolaeth ac, yn hanfodol, yn cychwyn Sgwrs Genedlaethol am les meddyliol.

Mae’r comisiynau blaenorol a ddyrannwyd wedi rhoi cyfle i artistiaid helpu i ennyn diddordeb pobl yn y sgwrs, a’u procio i feddwl am yr hyn y mae lles yn ei olygu iddyn nhw. Gallwch weld y comisiynau hyn yma: 

Yn awr, rydym am rannu syniadau ac adnoddau a fydd o gymorth i’n hysbrydoli wrth i ni i gyd gymryd camau i gefnogi ein lles meddyliol ni a lles meddyliol pobl eraill.

Mae gweithgarwch sy'n bleserus i ni, ac sy'n ein galluogi i archwilio ein diddordebau, yn cyfrannu at iechyd a lles cadarnhaol. Bydd y gweithgarwch sy'n hybu ein lles meddyliol yn amrywio o un unigolyn i’r llall, ond dengys ymchwil fod rhai themâu cyffredin o ran yr hyn sy'n bwysig i’n lles meddyliol; cysylltiadau cymdeithasol, dysgu, iechyd corfforol, ein meddyliau a'n teimladau, hanes a threftadaeth, creadigrwydd, hobïau a diddordebau, a natur. Gall allbynnau creadigol gynnwys myfyrdodau ar y themâu hyn a'r agweddau ar fywyd bob dydd a all ein helpu i deimlo'n dda a gweithredu'n dda.

Drwy ddatblygu Hapus, rydym wedi gwneud llawer o waith mewnwelediad ledled Cymru. Mae hyn wedi amlygu bod gwahaniaeth o ran faint o amser ac adnoddau y gall pobl eu neilltuo er mwyn cymryd rhan mewn gweithgarwch sy'n bwysig iddyn nhw. Mae rhai pobl yn wynebu llawer o heriau wrth gael mynediad i leoedd ac at gyfleoedd.

Dangosodd ymchwil diweddar gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd, a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod 93% o'r ymatebwyr yn cytuno ei bod yn bwysig cymryd camau i wella a diogelu eu lles. Fodd bynnag, nid oedd mwy nag 1 o bob 5 o bobl yn ymwybodol o’r camau y gallent eu cymryd i gefnogi eu lles, a dywedodd bron i 2 o bob 5 nad oeddent yn gallu neilltuo amser i wneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Dywedodd 29% o’r ymatebwyr nad ydynt yn gallu neilltuo amser i wneud y pethau y maen nhw’n mwynhau eu gwneud.

Roedd gallu cymryd camau i ddiogelu a gwella lles meddyliol yn fwy anodd o lawer i’r grwpiau canlynol: menywod, pobl ifanc 18-29 oed, y rhai a nododd anabledd, y rhai a nododd iechyd gwael, y rhai o grwpiau ethnig leiafrifol, a phobl sy'n byw mewn amgylchiadau â llai o adnoddau a chyfleoedd.

Rydym am gomisiynu artistiaid i weithio gyda phobl yn y grwpiau blaenoriaeth hyn i greu offer neu adnoddau ysbrydoledig, neu i adrodd eu straeon am yr hyn sy'n helpu eu lles meddyliol, i'w rhannu gydag eraill a sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgarwch sy'n cefnogi eu lles. 

Y Brîff

Rydym yn chwilio am artistiaid sy’n rhychwantu ystod o ffurfiau ar gelfyddyd a all greu cynnwys digidol o ansawdd uchel sy'n ysbrydoli ac ysgogi pobl yn ein grwpiau blaenoriaeth i gymryd camau i gefnogi eu lles meddyliol.

Dylai eich cynnwys creadigol gael ei gyd-gynhyrchu gyda phobl o un neu fwy o'r grwpiau canlynol:

  • Menywod.
  • Pobl ifanc 18-29 oed.
  • Y rhai sy'n nodi anabledd, sydd ag iechyd gwael neu sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, a gall gynnwys y rhai sy'n gofalu amdanyn nhw.
  • Pobl sy'n byw mewn amgylchiadau â llai o adnoddau a chyfleoedd. 
  • Y rhai o grwpiau ethnig leiafrifol

    Dylai eich cynnwys creadigol:  

  • Ysbrydoli pobl i ymgysylltu â Hapus.
  • Ysgogi pobl i gymryd camau i wella eu lles.

Bydd angen i’r artistiaid arddangos y canlynol: 

  • Meddu ar brofiad o gyd-gynhyrchu gwaith gyda grwpiau blaenoriaeth neu fod wedi nodi partneriaid cefnogol sydd â phrofiad perthnasol.
  • Defnyddio’r sylfaen dystiolaeth i’w hysbrydoli i ddod â themâu a chysyniadau allweddol yn fyw drwy greu cynnwys y gellir ei rannu'n ddigidol.
  • Bod â syniad clir o sut mae neilltuo amser ar gyfer yr hyn sy'n bwysig i chi yn cefnogi lles unigolion a’r gymuned.
  • Creu cynnwys digidol neu ffilm i safon broffesiynol y gellir ei darlledu, ar eu liwt eu hunain neu mewn partneriaeth â gwneuthurwr ffilmiau neu unigolion eraill sydd â'r arbenigedd technegol angenrheidiol. Bydd yr allbynnau ar ffurf cynnwys digidol a gallent gynnwys er enghraifft, y gair llafar, ysgrifennu creadigol, celfyddyd weledol, ffilm fer, cân.

Rydym yn awyddus i gomisiynu cynnwys gan artistiaid sydd wedi'u lleoli ledled Cymru. Dylai’r artistiaid ganolbwyntio ar ddatblygu a chreu allbynnau yn eu dewis iaith. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried a yw cyfieithiad/pa gyfieithiad sy'n briodol yn seiliedig ar yr allbwn creadigol a grëir a bydd yn talu unrhyw gostau yn ôl yr angen. Rydym yn croesawu cynigion gan artistiaid o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol yn ogystal ag artistiaid B/byddar, anabl a niwroamrywiol.

Y Gynulleidfa

Bydd y cynnwys yn cael ei rannu â'r cyhoedd yng Nghymru drwy ystod o weithgarwch rhaglen Hapus.

Ffioedd

Mae ffioedd o hyd at £3,000 fesul comisiwn ar gael i alluogi artistiaid, sefydliadau celfyddydol neu bartneriaethau o artistiaid a gwneuthurwyr ffilmiau i gynllunio a chyflwyno cynnwys digidol i safon broffesiynol.  

Drwy’r alwad hon, hoffem gomisiynu 6 darn ar wahân o gynnwys digidol. Rydym yn rhagweld y bydd rhagor o gyfleoedd ar gael yn y dyfodol yn rhan o raglen Hapus.  

Cymhwysedd

Dylai’r ymgeiswyr: 

  • Fod yn weithwyr proffesiynol creadigol (18 oed neu hŷn), neu'n sefydliad celfyddydol neu bartneriaeth, wedi'u lleoli yng Nghymru.
  • Bod â hanes cryf o weithio yn y sectorau celfyddydau/celfyddydau ac iechyd/diwylliannol. (Nid ydym yn gallu comisiynu myfyrwyr nac unrhyw un sydd mewn hyfforddiant llawnamser).
  • Gallu rhoi enghreifftiau o fod wedi creu cynnwys digidol cyn hyn i safon broffesiynol y gellir ei darlledu (gall hyn fod mewn cydweithrediad â phartneriaid ffilm neu bartneriaid technegol).

Sut i wneud cais

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 09.09.2025

Anfonwch gynnig byr, dim mwy na 1,000 o eiriau, at Iechyd Cyhoeddus Cymru: HI-Programme.Support@wales.nhs.uk yn dweud wrthym am:  

  • Eich ymarfer creadigol a phrofiad sy'n arbennig o berthnasol i'r comisiwn hwn.
  • Eich syniad creadigol, gan gynnwys sut y bydd yn ysbrydoli pobl eraill i gymryd camau sy'n cefnogi eu lles, sut rydych chi'n bwriadu gwneud eich syniad ar gael yn ddigidol, a rhestru unrhyw gydweithwyr a allai gynorthwyo gyda'r elfennau technegol.
  • Cofiwch gynnwys CV cyfredol gyda'ch cynnig hefyd.

Anfonwch fideo byr (uchafswm o 2 funud) ohonoch chi yn cyflwyno eich syniad creadigol hefyd. Bydd hyn yn ein helpu i gael syniad o'ch steil a'ch dull gweithredu. Nid ydym yn disgwyl fideo wedi'i gynhyrchu'n broffesiynol ar gyfer y cynnig. Rhaid i chi anfon y fideo drwy Borth Rhannu Ffeiliau Diogel GIG Cymru; mae’n galluogi i ffeiliau hyd at 20GB gael eu rhannu. Mae'r platfform yn gweithio orau drwy’r porwr Firefox.

Bydd angen i chi anfon e-bost i HI-Programme.Support@wales.nhs.uk i ofyn am ddolen a fydd yn eich galluogi i lanlwytho'ch ffeil i'r porth diogel.

Yr Amserlen

Bydd panel yn adolygu’r cynigion, ac rydym yn rhagweld y bydd yr artistiaid llwyddiannus wedi cael gwybod am y dyfarniadau erbyn 22.09.2025. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru am i'r cynnwys digidol gorffenedig gael ei gyflwyno erbyn 30.01.2026

Asesu’r cynigion

Bydd y ffactorau canlynol yn llywio ein penderfyniadau wrth ystyried y cynigion:  

  • Cryfder eich syniad creadigol, ei fod yn gydnaws ag amcanion Hapus a'i botensial i apelio at boblogaeth Cymru.
  • Y potensial i'ch syniad ysbrydoli pobl yn y grwpiau blaenoriaeth i gymryd camau sy'n cefnogi eu lles yn ogystal â lles pobl eraill.
  • Eich hanes blaenorol fel gweithiwr proffesiynol creadigol.
  • Tystiolaeth eich bod yn gallu cyd-gynhyrchu gwaith gyda'n grwpiau blaenoriaeth a chreu cynnwys digidol i safon broffesiynol.
  • Arwydd cryf o'ch clip fideo eich bod yn gallu ymgysylltu ag unigolion eraill a’u hysbrydoli i gymryd rhan mewn gweithgarwch sy'n cefnogi lles.
  • Cydbwysedd ac amrywiaeth cyffredinol y cynnwys ar draws y garfan o gomisiynau – o ran y ffurfiau ar gelfyddyd, iaith y cyflwyniad, ac amrywiaeth yr artistiaid.

Mae'n ddrwg gennym na fyddwn yn gallu rhoi adborth i’r ymgeiswyr aflwyddiannus.  

Anfonwch e-bost i’r cyfeiriad isod os oes gennych gwestiynau am y comisiwn hwn: 
HI-Programme.Support@wales.nhs.uk

 

Dyddiad cau: 09/09/2025