Mae Queertawe yn cynnal gweithdai perfformio Cabaret yn bersonol ac ar-lein i'ch helpu i ddyfeisio'ch perfformiad eich hun mewn drag, fel clown neu ar gyfer actiau wedi ei seilio ar gymeriad. Gyda chefnogaeth Pride Cymru ac yn cael ei arwain gan Cerian Hedd.

Mae Cerian Hedd yn glown ac yn artist arweiniol ar Brosiect Queertawe. Maent yn gyd-sylfaenydd Queer Clown Cabaret ac yn cynnal gweithdai mewn clownio a pherfformiad cymeriad. 

Sesiynau ar-lein:

25 Mawrth

29 Ebrill

20 Mai

17 Mehefin

Sesiynau wyneb yn wyneb (yn Abertawe):

10 Mawrth

7 Ebrill

19 Mai

16 Mehefin

14 Gorffennaf

Mae ein holl sesiynau yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. 

Mae angen archebu drwy'r ddolen isod!