Tocynnau Cynhadledd FEST yn Glasgow wedi eu gwerthu i gyd a’r rhaglen yn trafod themâu argyfyngus a pherthnasol yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop.
FEST – Ffederasiwn Chwedleuwyr Ewrop yw un o’r rhwydweithiau rhyngwladol mwyaf sy’n dwyn at ei gilydd chwedleuwyr ac artistiaid o bob rhan o Ewrop ac yn rhyngwladol unwaith y flwyddyn i drafod themâu ac ymarfer. Eleni Glasgow yw’r lleoliad (25-27 Mehefin) ac mae’r holl docynnau wedi eu gwerthu. Dywedodd trefnwyr rhaglen Cynhadledd FEST eleni eu bod am drafod themâu sy’n teimlo’n berthnasol yn awr mewn chwedleua, ffurf ar gelfyddyd sydd wedi ei wreiddio’n ddwfn mewn traddodiad ond a all ymdrin â phroblemau a themâu y mae brys i’w trafod yn awr yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.
Y 4 sefydliad sy’n cynrychioli’r Deyrnas Unedig ac yn trefnu Cynhadledd FEST ar y cyd eleni yw’r Village Storytelling Centre (Yr Alban), Adverse Camber (Lloegr), Armstrong Trust (Gogledd Iwerddon) a Tamar Eluned Williams (sy’n cynrychioli casgliad o artistiaid o Gymru).
“Fel cynrychiolwyr o bob cornel o’r Deyrnas Unedig, sydd â’n clustiau ar y ddaear, fe wnaethom wahodd cynigion ar gyfer y rhaglen o bob rhan o Ewrop a derbyn awgrymiadau gwych. Rydym wedi cynnwys pynciau a themâu amrywiol y mae ein cymunedau am gael gwybod rhagor amdanynt a’u trafod, ac mae lle i syniadau a phynciau newydd ddod i’r golwg yn ystod y gynhadledd trwy ddigwyddiadau Lle Agored,” dywedodd Naomi Wilds, cynhyrchydd a sefydlydd Adverse Camber.
Mae rhai o drafodaethau allweddol eleni yn cynnwys cynrychiolaeth o rywedd mewn llên gwerin, amrywiaeth mewn chwedleua, chwedleua digidol ac a all weithio, chwedleua a grym, blaengaredd, lleisiau heb ddigon o gynrychiolaeth ac ieithoedd mewn chwedleua.
Mae’r trefnwyr wedi rhaglennu sesiynau procio’r meddwl, sgyrsiau a gweithdai am amrywiaeth a chynrychiolaeth mewn chwedleua a phwy sy’n cael rhannu eu storïau a ble. Yn ystod y Gynhadledd bydd sesiynau ar Rywedd mewn Chwedleua gyda’r chwedleuwr o Hwngari, Boglárka Klitsie-Szabad yn arwain sesiwn ar Fenywod sy’n Chwedleuwyr, Narratives of Women in the Traditional (rural) Culture a bydd Johan Einar Bjerkem o Norwy yn rhannu sut y maen nhw wedi bod yn dadansoddi rhywedd mewn chwedleua a’r modelau y maen nhw’n eu defnyddio. Hefyd bydd Maria Jungas yn rhannu ei phrofiad a’r hyn a ddysgodd wrth weithio ar draws ffurfiau celfyddydol a’r dewrder i dorri’n rhydd o draddodiadau.
Fel rhan o Gynhadledd FEST eleni, bydd y chwedleuwr Indiaidd Prydeinig, Peter Chand, yn arwain sesiwn brocio dan y teitl Who’s let into the dairy? i helpu i archwilio pwysigrwydd ehangu mynediad, gan ofyn pa aelodau o gymdeithas sy’n cael lle i adrodd eu storïau. Peter yw un o chwedleuwyr enwocaf Ewrop, mae’n arweinydd gweithdai poblogaidd, ac mae wedi bod yn un o brif drefnwyr gŵyl chwedleua hynaf Lloegr, Festival at the Edge, am y 15 mlynedd diwethaf.
Bydd y chwedleuwr Gwyddelig, Leanne Bickerdike yn cyflwyno gweithdy yn FEST sy’n archwilio sut y mae llên gwerin a chwedlau Gwyddelig yn cynrychioli’r gymuned cwiar a LHDTCIA+. Nod y gweithdy yw creu lleoliad diogel a chynhwysol lle gall pobl archwilio eu hunaniaeth, rhannu eu profiadau, a dysgu oddi wrth ei gilydd trwy’r grefft o chwedleua yn y traddodiad Gwyddelig.
Yn cynrychioli Cymru yn FEST, bydd Michael Harvey fydd yn sôn am ei brofiadau wrth gynhyrchu a pherfformio chwedleua yn ddwyieithog trwy ei gwmni newydd BANDO! ac yn cynrychioli People Speak Up, bydd y Chwedleuwr Ceri J Phillips yn cymryd rhan o bell, ar-lein, mewn sesiwn ar Ddoethineb a Gasglwyd, sydd yn waith ar y cyd gydag Armstrong Story a Village Stories, yn trafod gweithio mewn cymunedau gyda phobl hŷn.
Bydd Cymru hefyd yn cynnal “Eisteddfod” fin nos fel rhan o’r gynhadledd, gan wahodd cyfranogwyr i rannu storïau, caneuon a cherddi, gyda Tamar a Michael.
Ar yr un pryd â Chynhadledd FEST, bydd Gŵyl Chwedleua Village yn Glasgow, lle bydd Tamar Eluned Williams a Naomi Doyle yn sgwrsio gydag Ishbel McFarlane am Mamieithoedd: siarad â phlant mewn ieithoedd lleiafrifol ac edrych ar dirwedd Cymru. Os nad ydych yng Nghynhadledd FEST neu yn yr Ŵyl Chwedleua yn Glasgow, mae dwy sesiwn ar-lein am ddim yn trafod themâu chwedleua i’r ifanc ac ieithoedd lleiafrifol.
Gan fod tocynnau’r ŵyl wedi mynd i gyd ymlaen llaw eleni, mae’r trefnwyr yn rhedeg dau ddigwyddiad FFORWM ar-lein am ddim lle bydd chwedleuwyr ac artistiaid yn gallu ymuno a thrafod syniadau a chysylltu cyn y gynhadledd ar-lein. Boed yn dod i’r Gynhadledd neu beidio, mae croeso i bawb fod yn rhan o’r sgyrsiau ar-lein yma. Bydd y chwedleuwr Tamar Eluned Williams a’r crëwr theatr Naomi Doyle, gyda chefnogaeth Adverse Cmber, yn arwain dwy drafodaeth ar-lein lle gall chwedleuwyr ac artistiaid gyfarfod, trafod eu crefft, rhannu sgiliau ac adnoddau.
Y ddau ddigwyddiad FFORWM ar-lein am ddim yw:
Mehefin 10 – 6-7.30pm - Chwedleua i’r Blynyddoedd Cynnar
Mehefin 17 – 6-7.30pm - Pobl Fach ac Ieithoedd Lleiafrifol
Nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael.
Cefnogir y digwyddiadau ar-lein yma gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
“Mae chwedleua yn ymwneud â gwrando a rhannu gyda phob cenhedlaeth a safbwynt. Dengys ein gwaith yng Ngogledd Iwerddon sut y mae storïau yn helpu i ddwyn pobl at ei gilydd a hybu dealltwriaeth ddiwylliannol ac mae arnom angen y sgiliau hynny gymaint ag erioed. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i Glasgow a dwysau brwdfrydedd pawb i gadw’r chwedlau i lifo ar draws ein holl gymunedau,” meddai Liz Weir MBE, Chwedleuwr Preswyl gyda Llyfrgelloedd Gogledd Iwerddon a’r Armstrong Storytelling Trust.