Mae Jonny Cotsen (Cymru) ac Access For ALL (India) yn cydweithio ar breswylfa digidol newydd i artistiaid gydag anableddau, fel rhan o gynllun Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: India-Cymru.
Enw'r bartneriaeth yw 'Manifesto for Accessible Arts Festival', ac maent yn galw am:
"artistiaid gydag anableddau beth bynnag ei hil, rhywedd, rhyw neu dosbarth cymdeithasol. Rydym yn chwilio am artistiaid sydd naill ai yng nghanol eu gyrfa, neu ar fin dod i'r amlwg, neu sydd â chyn lleied neu dim profiad o gwbl yn ei hymarfer artistig ei hun, ond sydd yn barod i gymryd risg ac archwilio cyfleoedd newydd heb ofn."
Cyfleoedd
Galwad India-Cymru i'r Maniffesto Ar Gyfer Celf Hygyrch
Mae Jonny Cotsen ac Access For ALL yn gofyn am geisiadau o India a Chymru i ymuno â'r preswyliad digidol i artistiaid ag anableddau.
23.07.2021
![An image with a dark blue background and text that reads 'Call for applications. Digital artists' residency for artists with disabilities' in white font. There is also text that reads 'MAAF. Manifesto for accessible arts festival' in yellow font.](/sites/default/files/styles/medium/public/2021-07/ManifestoForAccessibleArtsFestivalCallOut.png?itok=cmWM710-)