Mae'r sefydliadau partner wedi derbyn cyllid gan Gyngor y Celfyddydau Cymru er mwyn cyflawni ymchwil o gwmpas yr alw a rhwystrau bosib sy'n wynebu gweithgareddau celfyddydol Affricanaidd yng Nghymru, yn edrych yn benodol ar berfformiadau rhyngwladol, gwyliau, a gweithdai cymunedol.

Pwrpas yr arolwg yw gweld pa galw sydd yng Nghymru am weithgareddau celfyddydol Affricanaidd yng Nghymru, a'r diddordeb bosib mewn ŵyl Cymru-Affricanaidd traws-Cymru.

Gwelir dwy linc isod, cwblhewch yr arolwg priodol os gwelwch yn dda.

Fel sefydliad, maent yn archwilio sut gallwn ddod a chelfyddyd ac artistiaid Affricanaidd i Gymru mewn ffordd haws, mwy cynaliadwy, a mwy fforddiadwy. Maent yn gwneud hyn trwy greu cylchred diddordeb (yng Nghymru ac yn bellach) fel bod costau a gwaith papur fisas a gweinyddiaeth yn gallu cael ei rhannu rhwng nifer o ddigwyddiadau, ac felly yn rhoi llai o bwysau ar un ŵyl/lleoliad.