Mae Cyngor Celfyddydau Cymru am godi proffil y Celfyddydau ac Iechyd drwy ddathlu prosiectau celfyddydol sy'n gwneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl ledled Cymru. I wneud hyn, mae angen arnom gael fideos oddi wrthych.

A oes gennych unrhyw fideo inni?

  • Rydym ni’n gofyn i sefydliadau celfyddydol ac iechyd a phobl lawrydd os oes ganddynt unrhyw fideos o waith y Celfyddydau ac Iechyd y gallant eu rhannu â ni. Gallai hyn fod yn fideos heb eu golygu neu rai terfynol. Chwiliwn am fideos  Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog, ni waeth pa mor hir neu fyr ac a ffilmir ar unrhyw ddyfais. Peidiwch â phoeni os oes angen golygu eich fideos, fe wnawn ni hynny. Y cyfan sydd angen ichi ei wneud yw llenwi'r ffurflen casglu cynnwys (ar waelod y tudalen) i'ch fideo gael ei ystyried. Cewch wedyn sylw ychwanegol i’ch prosiectau ar ein cyfryngau
  • Rydym ni hefyd am greu fideos newydd. Os oes gennych brosiect a fydd yn digwydd yn y dyfodol agos, hoffem siarad â chi am recordio’r gwaith a chyfweld â chyfranogwyr. Os oes gennych brosiect ar y gweill, llenwch ffurflen casglu cynnwys (isod). Os bydd yn cyd-fynd â'n themâu, byddwn ni’n cysylltu â chi.

Beth a wnawn gyda'r fideos?

Ar ôl cael yr holl ganiatâd perthnasol, bydd ein tîm Cyfathrebu’n casglu’r fideos a’u trefnu’n ôl themâu’r Celfyddydau ac Iechyd (megis gwaith creadigol i wella iechyd meddwl; y celfyddydau ar bresgripsiwn). Rhannwn y fideos wedyn yn ddarnau perthnasol i greu pytiau llai i godi proffil y maes ar ein cyfryngau cymdeithasol a'n gwefan. Efallai y bydd rhai fideos yn aros yn gyfan.

Pwysig

  • Rhaid cael caniatâd gan berchennog y fideo a chan y cyfranogwyr am ddefnyddio'r fideo yn y ffordd a ddisgrifir cyn ichi rannu unrhyw gynnwys. Drwy rannu dolenni i gynnwys neu anfon ffeiliau fideo atom, rydych chi’n cadarnhau bod gennych y caniatâd a gallwch ddarparu copi o unrhyw ganiatâd ar gais. Efallai y bydd angen inni ofyn am y dystiolaeth os bydd ymholiad.
  • Os yw’r gwaith wedi’i wneud yn broffesiynol, rhaid cael caniatâd perchennog yr hawliau eiddo deallusol i ddefnyddio'r ffilmiau at ddiben hyrwyddo ehangach. Efallai y bydd angen inni gysylltu'n uniongyrchol â'r gwneuthurwr ffilm i sicrhau bod y newidiadau i’r fideo o ran hyd neu olwg yn gymeradwy ganddo. Efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi wedyn am hyn
  • Byddwn ni’n rhoi ar y fideo gredyd i’r sefydliad neu'r unigolyn, ond byddwn ni’n rhoi brand Cyngor Celfyddydau Cymru ar unrhyw waith sy'n cael ei ailolygu a'i hysbysebu gennym
  • Byddwn ni’n storio'r cynnwys am 3 blynedd ar lwyfan diogel â chyfrinair a fydd ddim ond ar gael i staff y Cyngor. Ni fyddwn ni’n defnyddio eich cynnwys at  unrhyw ddiben arall, nac yn ei rannu'n uniongyrchol ag unrhyw un arall i'w ddefnyddio heb eich caniatâd penodol. Byddwn ni’n gwaredu'r cynnwys yn ddiogel ar ôl 3 blynedd
  • Os ydych chi/y perchennog am dynnu caniatâd yn ôl am ein hawl i ddefnyddio'r fideo yn ystod y cyfnod, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â ni

Llenwch a chyflwynwch y ffurflen casglu cynnwys fideo a dilynwch y cyfarwyddiadau a ddaw wedyn.

Unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Amy Fleming:

celfyddydauaciechyd@celf.cymru neu +44 2920 441345