Rydym yn falch o gyhoeddi galwad agored heddiw i gynnig nifer cyfyngedig o leoedd mewn gweithdai sy’n rhan o’n rhaglen ‘Datblygu Cyfieithu Llenyddol yng Nghymru’ a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Nod y rhaglen yw grymuso sgwennwyr a chyfieithwyr llenyddol drwy roi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau cyfieithu ym meysydd barddoniaeth, rhyddiaith a’r theatr yng nghwmni rhai o ysgrifennwyr mwyaf cyffrous Cymru.
Bydd y gweithdai barddoniaeth a rhyddiaith yn cael eu cynnal yng Nghaernarfon a’r gweithdai theatr yng nghanolfan Yr Egin, Caerfyrddin mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r gweithdai am ddim i’r cyfranogwyr a ddewisir ac mae bwrsariaethau ar gael i helpu gyda chostau teithio a llety.
Gellir lawrlwytho manylion llawn y galwadau agored drwy ddilyn y dolenni hyn
GALWAD AGORED BARDDONIAETH A RHYDDIAITH (Cymraeg)
GALWAD AGORED THEATR (Cymraeg)
I ymgeisio, llenwch ffurflen gais arlein erbyn 12fed Awst 2024
neu anfonwch y dogfennau a nodir yn yr alwad drwy e-bost at