Mae Experimentica – yr unig ŵyl celf fyw yng Nghymru – yn dathlu ei chwarter can mlwyddiant, ac rydyn ni’n comisiynu hyd at bedwar darn o waith newydd ac uchelgeisiol gan artistiaid sy’n byw ac yn dod o Gymru.

Rydyn ni’n awyddus i weithio gydag artistiaid dros gyfnod o flwyddyn, gan ddechrau ym mis Tachwedd 2025, i wireddu darn o waith gorffenedig sydd â’r potensial i deithio ledled Cymru a’r tu hwnt.

Bydd yr artistiaid a ddewisir yn cael:
⋆ £3000 fel ffi artist
⋆ Pedair sesiwn dysgu gan gyfoedion wedi’u datblygu mewn trafodaeth â thîm Chapter a’r garfan
⋆ Tair wythnos o amser ymchwil a datblygu yn Chapter gyda chymorth technegol
⋆ £1000 o gyllideb cynhyrchu i’w wario ar ddeunyddiau, cefnogaeth dechnegol neu offer y tu allan i adnoddau Chapter
⋆ Teithio a llety yn ystod yr ŵyl
⋆ £500 cyllid hygyrchedd
⋆ Cyngor ac arweiniad i deithio â’r gwaith gyda lleoliad(au) partner

Wedi'i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru