Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn dymuno llunio rhestr o ymgynghorwyr posib ar gyfer cronfa grantiau Camau Creadigol y gall ymgeiswyr fanteisio arnyn nhw i'w cefnogi ar eu taith ddatblygiadol a chreadigol.
Mae’r gronfa Camau Creadigol yn canolbwyntio ar y rhai sy'n amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, wedi profi hiliaeth neu wahaniaethu, a phobl fyddar, anabl a/neu niwroamrywiol.
Rydym yn chwilio am ymgynghorwyr sydd ag arbenigedd mewn meysydd megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) mentora a/neu hyfforddi, cynhyrchu incwm a chodi arian, cynllunio busnes ac ariannol, marchnata, sefydlu sefydliadau, datblygu busnes ac ysgrifennu grantiau.
Bydd y gronfa Camau Creadigol yn rhaglen barhaus, gyda cheisiadau'n cael eu derbyn ar ddiwrnod olaf pob mis. Y dyddiad cau cyntaf fydd 31 Rhagfyr 2022. Mae Camau Creadigol ar agor ar gyfer ceisiadau rhwng £500 a £250,000 ac yn dosbarthu arian a godwyd bob wythnos gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol ar gyfer achosion da.
Mae'n bwysig nodi nad yw Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyfrifol yn uniongyrchol am reoli'r berthynas rhwng ymgeiswyr ac ymgynghorwyr ac mai ein nod yw darparu rhestr gyda manylion cyswllt a disgrifiad byr o'r ymgynghorwyr, fydd yn caniatáu i ymgeiswyr wneud penderfyniad gwybodus ynghylch pwy y bydden nhw'n hoffi gweithio gyda nhw. Os yw Ymgynghorydd ac artist/sefydliad yn cytuno i weithio gyda'i gilydd, bydd yn ffi yn cael ei gynnwys fel rhan o'r gyllideb gyffredinol yn y cais am grant gyda'r dull o dalu i'w gytuno rhwng y derbynnydd grant ac ymgynghorydd cyn cyflwyno cais. Noder, mai dim ond os yw'r cais yn llwyddo a’ch bod yn sicrhau arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru y gellir gwarantu eich ffi, felly ystyriwch hyn cyn gwneud y trefniant.
Cliciwch yma i lenwi holiadur i wneud cais i fod yn ymgynghorydd Camau Creadigol - dyddiad cau 13 Ionawr 2023
DIWEDD 8 Rhagfyr 2022