Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn galw ar artistiaid, curaduron, awduron a chynhyrchwyr ar ddechrau eu gyrfa i ymgeisio i’r rhaglen. Mae Goruchwylio+ yn gyfle datblygu rhyngwladol unigryw sy'n rhan o bresenoldeb Cymru yn 61ain Arddangosfa’r Biennale (9 Mai–22 Tachwedd 2026).

Dyma’n cyfle datblygu proffesiynol lle bydd goruchwylwyr yn chwarae rhan allweddol yn nhîm Cymru yn Fenis 2026.

Bydd yr arddangosfa eleni’n bartneriaeth rhwng dau artist, Manon Awst a Dylan Huw, a’u cydweithwyr ac orielau Oriel Davies, y Drenewydd ac Oriel Myrddin, Caerfyrddin. Dyma’r cyhoeddiad.

Arddangosfa fwyaf ac enwocaf y byd yw’r Biennale a ddechreuodd ym 1895. Mae'n un o ddigwyddiadau diwylliannol pwysicaf sydd gennym. Daeth dros 700,000 o ymwelwyr i'r arddangosfa ddiwethaf yn 2024.

Mae Goruchwylio+ yn cynnig tâl i bobl fyw a gweithio yn Fenis am o leiaf fis a bod yn llysgenhadon i arddangosfa Cymru yn Fenis. 

Bydd y goruchwylwyr yn siarad ag ymwelwyr, helpu i gyflwyno’r arddangosfa a chael cyfle i ymgolli yn yr awyrgylch celfyddydol deinamig.

Nod Goruchwylio+ yw magu rhwydweithiau proffesiynol, datblygu ymarfer creadigol ac adeiladu hyder ym maes diwylliant rhyngwladol

Mae 11 lle ar gael yn y rhaglen. Byddwn yn recriwtio eraill drwy ein partneriaid ym mhrifysgolion Cymru.

Rydym yn chwilio am bobl sydd â hyd at 5 mlynedd o brofiad proffesiynol, sgiliau cyfathrebu cryf ac angerdd am gelfyddydau gweledol Cymru. Nid oes angen addysg ffurfiol, dim ond ymrwymiad, chwilfrydedd ac awydd i gysylltu celf Cymru â chynulleidfa’r byd.

Croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli gan gynnwys pobl anabl, LHDTCRhA+, o fwyafrif ethnig y byd ac o gefndir tlawd.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael grant teithio fydd yn talu am hedfan, llety, tâl dyddiol a mynediad i'r Biennale. Byddwn yn eich hyfforddi cyn yr arddangosfa.

Dyddiad cau: Hanner dydd 10 Rhagfyr 2025 yw’r

Dyma ganllawiau ymgeisio yma.

Ymgeisiwch drwy: ein porthol

Cwestiynau? Cysylltwch â: cymruynfenis@celf.cymru

Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru sy’n comisiynu a rheoli Cymru yn Fenis a Llywodraeth Cymru sy’n ei chefnogi.