Ydych chi’n barod i fod ar flaen y gad ym maes trawsnewid addysgu a dysgu?
Bwriad y cynllun Archwilio yw i gynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol helaeth i athrawon fynd i'r afael â meithrin ac adeiladu dulliau dysgu creadigol arloesol. Gyda phwyslais penodol ar feysydd allweddol megis llythrennedd, iechyd a lles a gwreiddio creadigrwydd ar draws y cwricwlwm, bydd y sesiynau yn cael eu dylunio er mwyn annog gwell ymgysylltiad a phrofiadau dysgu cynhwysol.
Dan arweiniad tîm profiadol Dysgu Creadigol Cymru, sydd â dros degawd o brofiad a gwybodaeth ddyfnach ar strategaethau addysgu arloesol, ar y cyd â’r Hwyluswyr Hyfforddiant Dysgu Creadigol, bydd Archwilio yn gyflwyniad cadarn i addysgeg Dysgu Creadigol ac yn rhoi’r cyfle i fynychwyr i archwilio arferion gorau, dadansoddi achosion o astudio, ac ymgymryd ag ymarferion fydd yn cael effaith gadarnhaol ar brofiadau dysgu disgyblion.
Bydd 36 o sesiynau wyneb yn wyneb mewn chwe lleoliad ledled Cymru: 2 sesiwn y tymor ym mhob lleoliad (12 sesiwn y tymor).
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau | Dydd Iau 7fed Awst 2025 |
‘Hyfforddi'r hyfforddwr’ | Dydd Mercher 1af Hydref 2025 |
Dyddiau Hyfforddi | Dydd Mawrth neu ddydd Iau yn ystod tymor yr ysgol |
Beth rydym yn edrych amdano?
Rydym yn edrych am Hwyluswyr Hyfforddiant sydd â/ag:
- phrofiad helaeth o gyflwyno sesiynau hyfforddi o ansawdd uchel (nid yw profiad yn y sector addysg yn hanfodol)
- phrofiad o weithio ar un o gynlluniau Dysgu Creadigol Cymru yn y gorffennol, gan gynnwys Ysgolion Creadigol Arweiniol, Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol, Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar, a Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
- angerdd ac yn credu’n gryf mewn addysgeg a daliadau Dysgu Creadigol Cymru.
- argaeledd i fynychu sesiwn ‘hyfforddi'r hyfforddwr’ ddydd Mercher 1af Hydref 2025. (amser a lleoliad i'w cadarnhau).
- ymrwymiad i gyflwyno ar ddydd Mawrth neu ddydd Iau yn ystod tymor yr ysgol.
Byddwch yn cymryd rhan am 5 i 8 diwrnod drwy gydol y flwyddyn academaidd, gyda ffi ddyddiol gystadleuol o £300 ynghyd â threuliau teithio. Rydym yn bwriadu penodi hyd at 6 hwylusydd i ymuno â'r tîm hyfforddi newydd.
Am fanylion llawn ynghylch cymhwysedd a gofynion y swydd, cyfeiriwch at y ddogfen canllaw ymgeisio isod.
Sut i ymgeisio?
Barod i ymuno? Cwblhewch a chyflwynwch eich cais gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Gofalwch eich bod yn gwirio’r ddogfen canllaw ymgeisio yn drylwyr fel eich bod yn ymwybodol o ofynion a disgwyliadau y rôl.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau, 7fed Awst 2025.
Sut i gael gwybod mwy?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch ag un o aelodau’r tîm Dysgu Creadigol Cymru isod:
Huw Evans – huw.evans@celf.cymru
Shaun Featherstone – shaun.featherstone@celf.cymru
Rosie McConnell – rosie.mcconnell@celf.cymru
CYHOEDDIAD PWYSIG: Cyfleoedd Gwaith Pellach!
Dim ond y dechrau yw'r swyddi Hwyluswyr Hyfforddiant hyn. Rydym yn paratoi i gyhoeddi nifer o gyfleodd gwaith ar draws rhaglen newydd Dysgu Creadigol Cymru. Cadwch lygad am gyhoeddiadau dros yr wythnosau nesaf am rolau megis Partneriaid Dysgu Creadigol i gefnogi’r rhaglen Arbrofi – manylion i’w cyhoeddi 18fed Awst 2025. Bydd y cynllun Arbenigo ar waith yn fuan yn y flwyddyn newydd, ochr yn ochr â rownd newydd o'r Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol.
Gyda'i gilydd, bydd y rhaglenni hyn yn penodi dros 60 o weithwyr creadigol proffesiynol — gan ddarparu cyfleoedd pellach i ehangu eich effaith ar addysg greadigol.