Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn awyddus i gomisiynu cynnwys creadigol newydd gan wahanol artistiaid ac ymarferwyr creadigol ar gyfer y Cwtsh Creadigol. Y nod yw cefnogi ein cydweithwyr yn y GIG a gofal cymdeithasol. Mae'r Cwtsh Creadigol yn gasgliad ar-lein o adnoddau i ddefnyddio grym adferol y celfyddydau i gefnogi lles y rhai sy'n gofalu amdanom. 

Y briff 

Chwiliwn am artistiaid, ymarferwyr creadigol a sefydliadau celfyddydol ar draws pob celfyddyd gyda: 

  • syniadau gwych am waith creadigol digidol y gall y GIG a staff gofal gymryd rhan ynddynt 

  • fideos byr, diddorol (15 munud ar y mwyaf) 

  • ymdeimlad clir o sut y gall y gwaith gefnogi lles drwy gynnig hwyl, cysur, amser ymlacio, sbardun, mynegiant, sgiliau newydd 

  • arddull cyflwyno diddorol sy'n gallu ysbrydoli eraill i gymryd rhan   

Rydym ni am gomisiynu cynnwys yn Gymraeg a Saesneg gan artistiaid sy’n byw yng Nghymru. Hoffem glywed gan artistiaid o gefndir diwylliannol ac ethnig amrywiol a rhai B/byddar, anabl a niwroamrywiol. Yn y rownd yma mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed syniadau gan artistiaid sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth, drama, a syrcas. 

Nod y gronfa yw comisiynu syniadau artistig a chreadigol. Ni chwiliwn am waith lles yn gyffredinol fel myfyrdod, ioga ac ymwybyddiaeth ofalgar er mor werthfawr ydynt. Ond mae’r rhain eisoes ar gael i staff y GIG ac nid ydynt yn gelfyddydau’n ôl ein diffiniad. 

Cymerwch olwg ar wefan y Cwtsh Creadigol i gael syniad o'r cynnwys rydym wedi ei gomisiynu hyd yma ac i weld sut y gallai eich syniad creadigol ategu ac ychwanegu amrywiaeth yr hyn sy'n bodoli eisoes. 

 

Cynulleidfa'r gwaith 

Mae'r Cwtsh Creadigol yn gasgliad o adnoddau lles ar-lein i staff y GIG a'r sector gofal cymdeithasol. Y sector iechyd sydd â'r gweithlu mwyaf yng Nghymru gan gyflogi tua 90,000 o bobl. Maent ar flaen y gad yn y pandemig gan wynebu pwysau mawr dros gyfnod hir sy’n effeithio ar eu hiechyd a'u lles. 

Yn eu plith mae: 

  • nyrsys 

  • meddygon 

  • porthorion 

  • staff coginio 

  • gofalwyr mewn cartrefi gofal 

  • seiciatryddion 

  • parafeddygon 

  • Gweinyddwyr 

Cynlluniwyd y Cwtsh Creadigol mewn partneriaeth â: 

  • Gwella Addysg Iechyd Cymru 

  • Gofal Cymdeithasol Cymru 

  • Cydffederasiwn GIG Cymru 

  • Cydlynwyr y Celfyddydau ac Iechyd mewn byrddau iechyd 

  • grwpiau ffocws o weithwyr gofal iechyd 

Mae gweithwyr gofal iechyd yn debygol o fynd at y Cwtsh ar wahanol adegau (cyn eu shifft, amser cinio, gartref ar ôl y gwaith) ac am wahanol resymau - i ymlacio, anghofio am y gwaith, cael cysur, egni neu fwynhad. 

Mae’r pandemig yn ymestyn a chwiliwn am syniadau a chynnwys creadigol i apelio at ystod o weithwyr ym maes gofal iechyd. Rhaid i’r cynnwys adlewyrchu amrywiaeth a gwychder y staff eu hunain. 

Mae ffi o hyd at £3,000 fesul comisiwn ar gael i alluogi artistiaid i gynllunio, ffilmio a chyflwyno cynnwys digidol o safon. Rhaid i’r cynnwys fod yn barod i'w uwchlwytho i wefan Cwtsh – ni allwn ei olygu. Felly mae’r £3,000 yn caniatáu i artistiaid dalu am wasanaethau partner technegol os oes angen. 

Rhagwelwn gomisiynu hyd at 20 artist ac y bydd yna mwy o gyfleoedd yn y dyfodol. 

Dyddiad cau: hanner dydd ar 31 Mai 2022 

Oes diddordeb? Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio. 

Cefndir ein gwaith yn y Celfyddydau, Iechyd a Lles 

Mae defnyddio grym y celfyddydau i gyfrannu at iechyd a lles Cymru yn flaenoriaeth inni. Cyflymodd y broses yn ystod y pandemig wrth i ragor o bobl a chymunedau droi at waith creadigol i fwynhau, cysylltu ag eraill a chael ystyr yn yr holl anawsterau. 

Mae partneriaeth wrth wraidd ein gwaith i greu Cymru iachach. Mae gennym Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Chydffederasiwn GIG Cymru sydd erbyn hyn yn ei bedwaredd flwyddyn. Mae’n fodd inni weithio'n strategol i godi ymwybyddiaeth o fanteision iechyd y celfyddydau. Drwy ein harian Loteri Genedlaethol, gallwn gefnogi sefydliadau celfyddydol, artistiaid, awdurdodau lleol a phartneriaid iechyd i gynnig mentrau a rhaglenni sy'n gwella'r byd i gyfranogwyr a chleifion. 

Mae ein gwaith arall ym maes y Celfyddydau ac Iechyd yn cynnwys: 

  • cymorth ariannol i bob bwrdd iechyd yng Nghymru i gyflogi Cydlynydd y Celfyddydau ac Iechyd 

  • ysgrifenyddiaeth i Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol am y Celfyddydau ac Iechyd 

  • buddsoddi mewn hyfforddiant a rhannu arfer gorau drwy Rwydwaith Iechyd a Lles Celfyddydau Cymru 

  • cefnogi arloesedd drwy ein partneriaeth â’r Lab a'r Rhaglen HARP i brofi a chynyddu syniadau newydd 

  • Celf a'r Meddwl – rhaglen genedlaethol ym maes iechyd meddwl a'r celfyddydau mewn partneriaeth â Sefydliad Baring a byrddau iechyd Cymru 

  • Celf ar y Cyd – gydag Amgueddfa Cymru i rannu ac arddangos gwaith celf o'n casgliadau cenedlaethol mewn ysbytai 

  • cARTrefu - gydag Age Cymru a Sefydliad Baring – i gefnogi dulliau creadigol o ofalu drwy artistiaid preswyl mewn cartrefi gofal 

Bod yn gymwys 

Dylai ymgeiswyr: 

  • bod yn weithwyr creadigol (18 oed neu'n hŷn) neu'n sefydliad celfyddydol sydd yng Nghymru. 

  • gweithio yn un o'n disgyblaethau a ariannwn: 

  • cerddoriaeth 

  • dawns 

  • theatr 

  • llenyddiaeth 

  • y celfyddydau gweledol a chymhwysol 

  • y celfyddydau cyfunol/amlddisgyblaethol 

  • y celfyddydau digidol 

  • bod â hanes o weithio yn y sector celfyddydol/y celfyddydau ac iechyd/y sector diwylliannol 

  • gallu cynhyrchu cynnwys digidol o safon (fel artist unigol/drwy gydweithio â gwneuthurwr ffilm/fel sefydliad) 

Sut i ymgeisio 

Rhaid llenwi ffurflen ar-lein ac anfon fideo byr ohonoch yn cyflwyno eich syniad. 

Yn y ffurflen, gofynnwn: 

  • am eich ymarfer creadigol ac unrhyw brofiad perthnasol 

  • am eich syniad creadigol a'ch gwaith celfyddydol (gan gynnwys sut i gysylltu â'ch cynulleidfa a'u cael i gymryd rhan) ac egluro sut y bydd yn cefnogi lles staff gofal iechyd 

  • sut y bwriadwch ffilmio eich gwaith (a rhestru cynorthwywyr gyda’r elfennau technegol ffilmio/golygu/cynhyrchu'r fideo) 

  • am ddolenni i gynnwys digidol sy'n bodoli eisoes i roi sicrwydd o’r safon 

Dylai'r fideo fod yn fyr (2 funud ar y mwyaf) a dylai gyfleu eich arddull cyflwyno. Ni ddisgwyliwn gael fideo proffesiynol nawr (gallwch ei ffilmio ar eich ffôn) ond dylai ein darbwyllo y gallwch gynnwys pobl yn eich gwaith a'u hysbrydoli. Rhaid anfon eich fideo atom drwy WeTransfer – mae manylion yn y ffurflen ar-lein. 

Sut yr aseswn y cynigion? 

Dyma’r ffactorau a fydd yn llywio ein penderfyniadau: 

  • cryfder eich syniad creadigol a'i botensial i apelio at staff gofal iechyd a chynnig cyfleoedd iddynt 

  • y gall eich gwaith gynnig canlyniadau lles 

  • eich hanes fel artist/gweithiwr creadigol 

  • tystiolaeth y gallwch gynhyrchu cynnwys digidol o safon 

  • tystiolaeth o'ch fideo y gallwch ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn bod yn greadigol  

  • cydbwysedd ac ystod y cynnwys ar draws y comisiynau – o ran celfyddyd, iaith ac amrywiaeth yr artistiaid 

Pryd cewch chi wybod a lwyddoch? 

Cewch eich hysbysu erbyn diwedd Mehefin os llwyddwch. Ond oherwydd y galw mawr am y cyfleoedd, ni allwn roi adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus. 

Gydag unrhyw gwestiynau, e-bostiwch: cwtshcreadigol@celf.cymru 

Cliciwch ar y ddolen isod i ymgeisio 

Ffurflen Cynnig Cynnwys Creadigol 

 

Cwestiynau cyffredin 

Faint o gynnwys a gomisiynwch? 

Rhagwelwn gomisiynu 20 darn o gynnwys. 

A allaf wneud nifer o geisiadau? 

Na allwch. Rydym ni am gomisiynu amrywiaeth o artistiaid felly dim ond un cynnig y gall pob ymgeisydd ei gyflwyno. Soniwn am gyfleoedd comisiynu pellach i’r Cwtsh Creadigol yn ein cylchlythyr, ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol. 

A yw'r alwad yn agored i artistiaid a sefydliadau celfyddydol? 

Ydy. Gydag unrhyw gwestiynau am fod yn gymwys, e-bostiwch: cwtshcreadigol@celf.cymru 

A allaf wneud cais os oes gennyf grant ar hyn o bryd oddi wrthych? 

Gallwch. 

Faint o gynnwys ydych chi'n ei ddisgwyl ym mhob comisiwn? 

Tua 15 munud i bob comisiwn o £3,000. Gallai gynnwys dau neu dri fideo (5 munud yr un) neu fideo hwy. Mae’r staff gofal iechyd yn brysur felly gallai fod yn well cynnig fideos byr. 

Sut y caf fy nhalu? 

Cewch daliad ar ôl cyflwyno eich cynnwys digidol. 

A allaf hawlio costau ychwanegol am dreuliau a deunyddiau wrth greu'r cynnwys? 

Na allwch, mae'r ffi o £3,000 am bopeth - gan gynnwys talu'r holl gostau artistig a chynhyrchu. 

Beth sy'n digwydd os bydd angen help cynhyrchu arnaf? 

Gallwch gael gweithiwr fideo i'ch helpu i gynhyrchu cynnwys digidol o safon proffesiynol. Mae’r ffi o £3,000 yn cynnwys talu am help gyda chynllunio, ffilmio a chyflwyno'r cynnwys digidol. Rhaid ichi dalu ffioedd eich cydweithredwyr o'ch ffi wreiddiol. 

Beth yw'r amserlen ar gyfer cyflwyno cynnwys? 

Bydd angen cyflwyno'r cynnwys i dîm y prosiect erbyn y 5ed o Awst 2022 fan bellaf.