Mae Gŵyl Boia, Tyddewi yn chwilio am artistiaid cyfoes yng Ngorllewin Cymru, yn enwedig Sir Benfro, i arddangos gwaith yng Nghapel Sion, Stryd Newydd, Tyddewi fel rhan o Faes Celfyddydau Gŵyl Boia ar 24/25/26 Hydref 2025. http://www.boiafestival.co.uk 

Mae Gŵyl Boia, Tyddewi, yn ŵyl gerddoriaeth flynyddol. Themâu'r Faes Celfyddydau eleni yw cymuned, amgylchedd, newid hinsawdd a diwylliant Cymru. Sylwch ein bod am arddangos gwaith presennol i gynulleidfa'r ŵyl. Yn ddelfrydol, byddem yn cynnal gwaith gan ddau neu dri artist yn y capel. 

Mae'r ffurfiau celf yr ydym yn ymddiddori ynddynt yn cynnwys cerfluniau, celf gosod, gwaith gan ddefnyddio golau, tafluniad, gwaith gan ddefnyddio sain, a gweithiau dau ddimensiwn ar raddfa fawr a all ymateb i raddfa tu mewn capel. 

Yn y lle cyntaf, anfonwch e-bost at Jake Harries, cyfarwyddwr celfyddydau'r ŵyl, ar ArtsAtBoiaFestival@gmail.com am ffurflen gais a rhagor o wybodaeth (gan gynnwys manylion yr adeilad). Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 5 Medi 2025. Bydd artistiaid yn derbyn ffi a chymorth gyda chludiant os oes angen.

 

Dyddiad cau: 05/09/2025