Cynhelir ein pedwerydd Ffair Grefftau Cyfoes Dros Dro Gogledd Cymru yn 2025 ym Mostyn ddydd Sadwrn 13eg o Fedi 2025.
Ar agor 10.30yb - 4.30yp a gyda mynediad AM DDIM i ymwelwyr, mae'n gyfle gwych i brynu celf hardd a fforddiadwy yn uniongyrchol gan yr artistiaid.
Bydd gennym 13 stondin gydag amrywiaeth o artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr o Gymru a gweddill y DU.
Catherine Woodall / Grace & Days / Kim Sweet / Lydia Silver / Miss Marple Makes / Hazel Bay / Ruby Gingham / Ruth Green Prints / Ruth Packham / Saltwater & Starlight / Shinedesigns / Tara Dean / The Whale Creative
Bydd gennym hefyd weithdy galw heibio am ddim a bydd ein Siop ar agor fel arfer, a bydd ein caffi hefyd ar agor drwy'r dydd ar gyfer coffi wedi'i rostio'n lleol, cacennau blasus a phrydau ysgafn.