Syniadau a straeon yn cwrdd â thrafodaethau a pherfformiadau
yn Lleisiau Eraill Aberteifi
30 Hydref – 1 Tachwedd 2025
Mwldan 2 (Prif Awditoriwm), Mwldan, Aberteifi
- Sgyrsiau eang ac ysbrydoledig gyda lleisiau o Iwerddon a Chymru
- Seremoni Samhain / Calan Gaeaf ar y cyd
- Clebran ar Hyd y Llwybr yn dychwelyd gyda sgyrsiau agos atoch gydag artistiaid o gwmpas Aberteifi
- Tridiau o baneli, cyfweliadau a pherfformiadau wedi'u cynnwys gyda band arddwrn yr ŵyl
Mae Clebran yn dychwelyd i’r Mwldan fel rhan o Leisiau Eraill Aberteifi rhwng 30 Hydref - 1 Tachwedd 2025. Dros dridiau, bydd Clebran yn dod ag artistiaid, academyddion, llunwyr polisi a lleisiau cymunedol o Iwerddon a Chymru ynghyd ar gyfer sgyrsiau sy'n amserol, yn ystyrlon ac yn ysbrydoledig, ochr yn ochr â pherfformiadau a seremonïau.
Mae rhaglen eleni, Edrych Tuag Adref/ Looking Towards Home, yn archwilio pynciau sydd wrth wraidd bywyd yn y ddwy genedl: iaith, hunaniaeth, amgylchedd, amaethyddiaeth, tai, mudo a thraddodiadau diwylliannol a rennir. Mae cyfranwyr yn amrywio o ffermwyr a choedwigwyr i gerddorion, awduron ac ymgyrchwyr, gyda thrafodaethau wedi'u gwreiddio ym mhrofiadau cymunedau ar ddwy ochr Môr Iwerddon.
Bydd Clebran yn agor ddydd Iau 30 Hydref gyda ffocws ar yr hyn y gall ein dwy genedl fechan ei ddysgu oddi wrth ei gilydd, a'r hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd. Yn Ein Hieithoedd Ni’n Hunain, bydd y DJ a'r ddarlledwraig Molly Palmer yn ymuno â'r perfformiwr drag o Gymru, Actavia, a'r rapiwr Gwyddeleg Séamus Barra Ó Súilleabháin. Gyda chyfieithu ar y pryd rhwng y Gymraeg, y Wyddeleg a'r Saesneg, bydd y drafodaeth yn archwilio'r hyn y gall Cymru ac Iwerddon ei ddysgu oddi wrth ei gilydd wrth i genhedlaeth newydd o artistiaid weithio i sicrhau bod ein hieithoedd yn parhau fel rhai ffyniannus a byw, nid fel arteffactau hanesyddol i'w cadw yn unig.
Ddydd Gwener 31 Hydref, bydd Clebran yn troi at amaethyddiaeth. Yn Tir, bydd Meinir Howell (Ffermwraig y Flwyddyn NFU Cymru), y ffermwr o Gorc Pete Twomey a'r Ysgolhaig o Nuffield Molly Garvey yn archwilio sut mae ffermwyr arloesol yn gweithio i wneud pethau'n wahanol - gan gynnig dulliau newydd a allai adfywio eu cymunedau a'u hamgylcheddau yn wyneb amaethyddiaeth ddiwydiannol ac argyfwng amgylcheddol. Nes ymlaen y diwrnod hwnnw, bydd Coedwig yn dod â Matthew Yeomans (awdur Return to my Trees) a chynrychiolwyr dau o'n prif elusennau adfer natur — Ray Ó Foghlu o Hometree a Tash Reilly o Tir Natur ynghyd i drafod sut y gall ailgoedwigo adfer ecosystemau a chynnal cymunedau gwledig.
Ddydd Sadwrn 1 Tachwedd, byddwn yn archwilio ein cartrefi a'n hunaniaethau. Yn Cartref, bydd colofnydd yr Observer, Róisín Lanigan (awdur I Want To Go Home But I’m Already There), AS Ceredigion Preseli Ben Lake a'r perfformiwr/cyfarwyddwr Rhiannon Mair yn archwilio sut y gallwn ymateb i argyfwng tai sy'n gweld trigolion trefol yn cael eu llethu gan renti uchel ac ansicrwydd, tra bod y rheini mewn ardaloedd gwledig yn cael eu gwasgu gan ail gartrefi a llety gwyliau. Yn Sut i Fod y Ddau Beth, y nofelydd Elizabeth O’Connor (awdur Whale Fall), yr awdur bwyd Angela Hui (awdur Takeaway), a'r gwneuthurwr ffilmiau Yassa Khan yn myfyrio ar sut mae newid a mudo yn ein harwain i greu hunaniaethau newydd mewn cartrefi hen a newydd. Ac yn Dŵr, yn ymuno â Jess McQuade o WWF Cymru fydd y cerddor gwerin, ymchwilydd, tyfwr grawn a hanesydd diwylliannol Owen Shiers, ynghyd ag eraill, i archwilio ein perthynas â'r adnodd hanfodol hwn.
Mae Clebran ar Hyd y Llwybr yn dychwelyd yn 2025, gan fynd â'r trafodaethau allan i dref Aberteifi. Ar noson 31 Hydref, cynhelir seremoni gyhoeddus Samhain/Calan Gaeaf yn Pizza Tipi, dan arweiniad Derwydd Dingle Julí Ní Mhaoilóin a Derwydd Cymru Carys Eleri, gyda'r llên- gwerinwr Billy Mag Fhloinn yn feistr y seremonïau. O amgylch y tân adeg machlud haul, bydd y ddefod a rennir hon yn nodi treigl y tymhorau a'r cysylltiadau diwylliannol dwfn rhwng Iwerddon a Chymru. Yn dilyn hyn, bydd Clebran ar Hyd y Llwybr yn parhau dros y penwythnos, gan gyflwyno sgyrsiau agos atoch gydag artistiaid yng Nghapel a Festri Bethania.
Mae band arddwrn Lleisiau Eraill yn rhoi mynediad i holl ddigwyddiadau Clebran a Llwybr Clebran (ar sail y cyntaf i'r felin). Gweler www.othervoices.ie am fwy o fanylion.
Gŵyl gerddoriaeth a syniadau Cymru-Iwerddon yw Lleisiau Eraill Aberteifi, wedi'i hysbrydoli gan y gyfres gerddoriaeth Wyddelig enwog. Dros dridiau, mae'n cydblethu trafodaethau Clebran, Llwybr Cerdd bywiog o dalent newydd, a phrif berfformiadau yn Eglwys y Santes Fair, a’u darlledu'n fyw ar-lein a nes ymlaen ar y teledu.
Llwyfannir Lleisiau Eraill Aberteifi gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Adran Twristiaeth, Diwylliant, Celfyddydau, Gaeltacht, Chwaraeon a Chyfryngau, Cronfa Gymodi'r Adran Materion Tramor a chaiff ei chynhyrchu gan South Wind Blows mewn partneriaeth â Mwldan a Triongl. Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gyda chefnogaeth gan Gyngor Sir Ceredigion. Caiff y digwyddiad ei ffilmio gan Triongl ar gyfer ei ddarlledu nes ymlaen ar RTÉ.