Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, a Llywodraeth Cymru a gefnogir gan Sefydliad Paul Hamlyn. Eleni mae’n bleser gennym groesawu Mudiad Meithrin i ymuno ac edrychwn ymlaen at weithio gyda llawer mwy o leoliadau Cymraeg.
Mae Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar yn dod ac Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar ac Ymarferwyr Creadigol ynghyd i archwilio ffyrdd o ddatblygu amgylcheddau a phrofiadau dysgu a all ysgogi datblygiad a chwilfrydedd naturiol plant 3-5 oed.
Mae gan y fenter dri nod:
- dod ag Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar ac Ymarferwyr Creadigol ynghyd i archwilio ffyrdd o weithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar nas cynhelir, i greu amgylcheddau a phrofiadau sy'n gyfoethog o ran iaith, chwarae, datblygiad corfforol, y celfyddydau, creadigrwydd ac a fydd yn cefnogi plant fel dysgwyr annibynnol;
- deall rôl ganolog creadigrwydd a chwarae yn natblygiad plenty;
- cyfuno egwyddorion canolog y Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau a ariennir a nas cynhelir, gydag addysgeg yr Arferion Creadigol y Meddwl, yn ogystal a dysgu o Gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.
Mynegiant o Ddiddordeb
Rydym yn awyddus i glywed gan Weithwyr Creadigol Proffesiynol a allai fod â phrofiad o weithio gyda grŵp oedran y blynyddoedd cynnar (3 - 5 oed).
Ar gyfer ail rownd o’r fenter rydym yn gwahodd ceisiadau gan Weithwyr Creadigol Proffesiynol sydd:
- wedi’u lleoli ledled Cymru sy’n hyderus wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg.
- wedi'u lleoli yng nghanolbarth a de-orllewin Cymru sy'n siarad Cymraeg a/neu Saesneg.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio ar fenter y Blynyddoedd Cynnar, byddem yn ddiolchgar pe gallech lenwi ein ffurflen mynegiant o diddordeb yma.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd eich dewis iaith yn oedi unrhyw ohebiaeth. Hefyd, os ydych wedi gweithio ar y fnter hon yn barod fel Asiant Creadigol, nid oes angen i chi gwbwlhau'r ffurflen hwn.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno diddordeb yw 12yp 25 Medi 2023
Rôl yr Asiant Creadigol
Bydd yr Asiant Creadigol yn:
- gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’ i herio meddwl ac ymarfer;
- helpu i ganfod ac egluro'r materion allweddol, pryderon mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar unigol, gan edrych ar flaenoriaethau ac anghenion y dysgwr a'r Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar;
- cynghori ar gynllunio prosiectau a rheoli prosiectau;
- cefnogi perthnasoedd gwaith effeithiol a gweithio mewn partneriaeth;
- ysgogi meddyliau a syniadau;
- helpu lleoliadau blynyddoedd cynnar i ddatblygu dull myfyriol;
- gofyn cwestiynau a fydd yn herio meddwl;
- dod â phersbectif gwahanol, ond sy'n gysylltiedig;
- helpu lleoliadau blynyddoedd cynnar i ddewis Ymarferwyr Creadigol a fydd yn dod â sgiliau priodol i brosiectau;
- helpu lleoliadau blynyddoedd cynnar i fodloni'r holl ofynion monitro a gwerthuso.
Amserlen
Dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb |
12pm 25 Medi 2023.
|
Dyddiadau hyfforddi â thâl y bydd angen i chi fod ar gael ar eu cyfer (lleoliadau ac union ddyddiadau i'w cadarnhau) |
Wythnos yn cychwyn 2 Hydref 2023 w/c 20 Tachwedd 2023 w/c 5 Tachwedd 2024 |
4 diwrnod ym gweithio gyda lleonliad blynyddoedd cynnar |
28 Tachwedd 2023 – 21 Mehefin 2024 |
Sesiwn rhwydweithio |
I’w cadarnhau |
Digwyddiad Rhannu a Gwerthuso â thâl |
Wythnos 24 Mehefin 2024
|
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â:
Tîm Dysgu Creadigol – dysgu.creadigol@celf.cymru