Mae dyddiad cau gwneud cais i Gronfa Adfer Ddiwylliannol 2 – sy’n cael ei darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol - bellach ar y gorwel. Agorodd y gronfa ar y 6ed o Ebrill ac mae’r dyddiad cau am 5pm 20fed Ebrill. Mae hyd at £30m ar gael er mwyn cynorthwyo’r sector.

Dylai ymgeiswyr sicrhau eu bod yn ddilys ar gyfer cyflwyno cais, yn ogystal â dod o hyd i’r trywydd i’w ddilyn ar gyfer cyflwyno cais, trwy ymweld â https://fundchecker.businesswales.gov.wales/culturep2 yn y lle cyntaf. Dim ond ceisiadau gan sefydliadau (nid unigolion) y byddwn yn eu prosesu.

Os fydd y gwiriwr yn cadarnhau eich bod yn ddilys o ran cyflwyno cais i Gyngor Celfyddydau Cymru a dim cyfrif ar-lein gennych eisoes (o bosib am nad ydych wedi gwneud cais am grant i ni or blaen, yna cofrestrwch am gyfrif cyn gynted â phosib trwy ymweld â  https://porth.celf.cymru/  Dylid nodi y gall gymryd hyd at 5 diwrnod i gofrestru. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr.

Ar adeg cyhoeddi’r gronfa ar 20 Mawrth, dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas:

"Rydym yn cydnabod yr heriau digynsail y mae'r pandemig yn eu cael ar wead diwylliannol bywyd Cymru ac rydym yn cymeradwyo'r gwydnwch a'r creadigrwydd a ddangosir.

"Rydyn ni i gyd eisiau bod yn ôl mewn theatrau, sinemâu ac orielau lleol cyn gynted â phosib, ond mae'n rhaid i ni aros yn amyneddgar. Yr ydym wedi bod yn onest ac yn realistig gyda phobl yng Nghymru o'r cychwyn cyntaf, yn hytrach na pheintio'r darlun mwyaf optimistaidd a allwn.

"Gyda hynny mewn golwg rydym wedi gwrando a gweithio gyda'r sectorau i roi'r pecyn cymorth ychwanegol hwn ar waith ac rwy'n sicr y bydd yn darparu rhyddhad i'w groesawu, yn ogystal â blociau adeiladu ar gyfer y dyfodol."

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ynghylch y Gronfa Adfer Ddiwylliannol 2 yma - https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd/cronfa-adferiad-ddiwylliannol-wedii-hymestyn