Mae The Audience Agency yn gweithio gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i ymchwilio i ba newid sydd ei angen a nodi'r risgiau o beidio â gweithredu.

Gallwch ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl yma (yn Gymraeg) neu yma (yn Saesneg).

Y dyddiad cau ar gyfer cyfraniadau yw dydd Gwener 31 Hydref.

Rhannwch hwn gydag unrhyw un arall yr ydych chi'n meddwl y dylem glywed eu safbwyntiau:

  • P'un ai ydyn nhw'n ystyried eu hunain fel rhywun sy'n ymwneud â 'diwylliant' – ai peidio.
  • P'un ai ydyn nhw'n gweithio'n broffesiynol gyda chreadigrwydd neu ddiwylliant – ai peidio.
  • P'un ai oes ganddynt rôl mewn corff cyhoeddus neu'n darparu gwasanaethau cyhoeddus – ai peidio.
  • P'un ai ydych chi'n cytuno â'u barn – ai peidio!

Ar hyn o bryd, yr hyn sydd ei angen arnom yw amrywiaeth o safbwyntiau. 

Diolch.