Mae saith bwrdd iechyd GIG Cymru wedi cael arian gan Gelf a'r Meddwl| Arts and minds, rhaglen newydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring gyda’r nod o gefnogi iechyd meddwl gwell. Caiff arian hefyd gan y Loteri Genedlaethol.

Gan barhau â’r prosiect llwyddiannus cARTrefu - y celfyddydau mewn cartrefi gofal, rydym ni’n falch o adnewyddu ein partneriaeth â Sefydliad Baring gyda Chelf a’r Meddwl. Wrth gydweithio â GIG Cymru, bydd y rhaglen yn fodd i'n Byrddau Iechyd gydweithio ag artistiaid a sefydliadau celfyddydol i greu ffyrdd o wella bywyd pobl â phroblemau iechyd meddwl. Gwerth y rownd gyntaf yw £200,000 gyda hanner yn dod o Sefydliad Baring a hanner oddi wrthym ni.

Meddai Phil George, ein Cadeirydd:

"Diolch i'r Sefydliad Baring a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy'n codi £36 miliwn bob wythnos at achosion da, gallwn wneud gwahaniaeth i bobl â phroblemau iechyd meddwl drwy weithgarwch creadigol.

"Mae'r rhaglen newydd yn rhan allweddol o'n strategaeth yn y maes. Cydweithiwn yn agos â'r GIG i sicrhau y gall creadigrwydd wella iechyd meddwl pobl. Gobeithio perswadio ein partneriaid iechyd i fuddsoddi’n fwy mewn prosiectau celfyddydol i sicrhau buddion iechyd a lles".

Dywedodd David Cutler, Cyfarwyddwr Sefydliad y Baring:

"Amlygodd ein hymchwil diweddar, Creatively Minded and the NHS, y cynnydd trawiadol yng Nghymru yn y cydweithio rhwng y GIG a'r celfyddydau. Mae’n esiampl i weddill Prydain. Rydym ni’n falch o gydweithio â’r Cyngor ar raglen i gynnig cyfleoedd creadigol i bobl â phroblemau iechyd meddwl."

Meddai Sally Lewis, Pennaeth y Rhaglen:

"Dwi wrth fy modd y bydd y rhaglen yn cefnogi prosiectau ym mhob un o’n saith Bwrdd Iechyd fel gall pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael budd o’r gwaith.

"Nod y prosiect yw gwneud gwahaniaeth i fywyd ystod eang o bobl gan gynnwys:

  • rhieni a babanod newydd
  • plant â phroblemau bwyta ac sy’n ymniweidio
  • oedolion â phroblemau iechyd meddwl

Mae’n rhaglen uchelgeisiol a hirdymor i gynnwys y celfyddydau creadigol yn ein gwasanaeth iechyd. Bydd yn rhoi arian rheolaidd i'n 7 bwrdd iechyd gan sefydlu diwylliant o gomisiynu artistiaid i gefnogi iechyd meddwl pobl Cymru.”

Diwedd                                                                                   10 Hydref 2021

Nodiadau i’r golygydd:

Dyma fanylion prosiectau’r rownd gyntaf:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Prosiect y Celfyddydau ac Iechyd Meddwl i Fabanod a Rhieni. Gwaith creadigol i wella’r berthynas rhwng rhieni a’u plant gan ganolbwyntio ar famau ag iselder ôl-enedigol a seicosis, tadau newydd a'r rhai sy'n dioddef oherwydd y pandemig.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Celfyddydau Iechyd Meddwl ar Bresgripsiwn. Cynllun ar gyfer gwaith celfyddydol hirdymor yn y gymuned.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Gwaith creadigol i gefnogi iechyd meddwl oedolion gyda symud a cherddoriaeth i ddefnyddwyr yr Adran Niwroseiciatreg; gwella’r cynnig celfyddydol yn y Coleg Adfer a gwella’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i’r cyhoedd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Creadigrwydd ar gyfer Iechyd Meddwl. Rhaglen greadigol i gefnogi hynt cleifion â phroblemau iechyd meddwl i ddychwelyd i’w cymuned.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Hwb Celf. Rhaglen y celfyddydau ac iechyd meddwl i blant a phobl ifanc sy'n byw gyda phroblemau bwyta, iselder ac sy’n meddwl am hunanladdiad neu niweidio ei hun.

Bwrdd Iechyd Dysgu Powys

Yn Hollol Annisgwyl. Gwaith creadigol i gefnogi pobl sy'n profi galar o ganlyniad i hunanladdiad.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Dyma Obaith. Rhaglen gelfyddydol i atal hunanladdiad ymhlith y staff.

  • Sefydliad annibynnol yw Sefydliad Baring sy'n diogelu a datblygu hawliau dynol a hyrwyddo cynhwysiant. Ers 2020 mae ei raglen gelfyddydol yn canolbwyntio ar gynnig cyfleoedd i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae’n cyhoeddi ymchwil yn rheolaidd, gan gynnwys yn ddiweddar, Creatively Minded and the NHS.
  • Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff cyhoeddus sy'n ariannu a chefnogi celfyddydau Cymru.

Am ragor o wybodaeth am y Cyngor, ewch i ymweld â’n gwefan – www.celf.cymru.  Am ragor o wybodaeth am Sefydliad Baring, ewch i www.baringfoundation.org.uk