Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o’n setliad dangosol ar gyfer 2024/25, a chwblhau proses apelio’r Adolygiad Buddsoddi, mae’r Cyngor Celfyddydau wedi rhoi cynigion diwygiedig i sefydliadau wnaeth dderbyn cynnig o gyllid aml-flwyddyn fel rhan o’n Adolygiad Buddsoddi.
Rydym yn derbyn toriad o 10.5% yn ein cyllideb ar gyfer 2024/25, ac o ganlyniad wedi gorfod ailedrych ar ein holl gostau ar draws y sefydliad, gan gynnwys y cynigion aml-flwyddyn. Trafododd y Cyngor hyn mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2024, gan gytuno i drosglwyddo toriad o 2.5%, i’w weithredu’n unffurf ar gyfer pob un o’r 81 sefydliad sydd wedi derbyn cynnig o gyllid aml-flwyddyn.
Mae ein sector yn wynebu hinsawdd ariannol heriol, ac rydym ar hyn o bryd yn ceisio llywio penderfyniadau mewn ffordd sy’n gwarchod buddiannau’r sector, crewyr celfyddyd a chynulleidfaoedd gymaint â phosib.
Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau pellach maes o law.