Hoffech chi wybod sut gallwn ni gynhyrchu, tyfu a dysgu o flaengaredd creadigol sy’n cefnogi iechyd a lles pobl yng Nghymru?
Yna dewch i gyfres o ddigwyddiadau ar-lein gan HARP, a fydd yn rhedeg dros amser cinio yn ystod Wythnos Creadigrwydd a Lles (17-20 Mai).
HARP – Iechyd, Celfyddyd, Ymchwil, Pobl (Health, Arts, Research, People) – yw’r bartneriaeth ymchwil ac arloesedd sydd wedi bodoli ers 2020 rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Lab Cymru Prifysgol Caerdydd a Nesta.
Rydych yn siŵr o gael eich ysbrydoli gan rai o’r 13 prosiect mae wedi’u cefnogi ledled Cymru, a chael eich ysgogi gan y siaradwyr gwadd gwych sydd wedi’u trefnu, ynghyd â’r gwersi a’r argymhellion a rennir.