Gŵyl dan arweiniad pobl fyddar yng Nghaerdydd yw Deaf Gathering Cymru gyda Deaf Gwdihŵ,  Heather Williams a Jonny Cotsen, a Chapter. 

Mae’r dathliad tri diwrnod o 21-23 Tachwedd ar agor i bawb, ac yn cynnig rhaglen ddeinamig o ddiwylliant a sgyrsiau gyda safbwyntiau byddar yn ganolog iddi.

Cynhelir y digwyddiad yma gan bobl fyddar ac ar gyfer pobl fyddar, ond mae croeso cynnes i bobl sy’n clywed hefyd. Mae'r rhaglen yn cael ei chynnal yn Iaith Arwyddion Prydain gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg.

Mae Deaf Gathering Cymru yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau, sgyrsiau a pherfformiadau, gyda phopeth o ddawns, trafodaethau a gweithgareddau i’r teulu, i ffilmiau, perfformiadau a chabaret.

Cynhelir Deaf Gathering Cymru gan Chapter a Deaf Gwdihŵ, gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn falch iawn taw ein Prif Noddwr eleni yw Deaf Health Wales.

____

Dydd Gwener

Symposiwm: Sgyrsiau Creadigol Byddar, 9.30am
Sgwrs anffurfiol am iechyd meddwl a llesiant o fewn cymuned y byddar yng Nghymru.

Deaf Health Wales: Deall Iechyd Meddwl Pobl Fyddar, 9.30am
Sgwrs anffurfiol am iechyd meddwl a llesiant o fewn cymuned y byddar yng Nghymru.

Deaf Health Wales – YELLOW: Sesiwn Gwella Corff a Meddwl gyda Alex y Hyfforddwr Personol, 12pm
Ymunwch â Deaf Health Wales am sesiwn llesiant gyda’r hyfforddwr personol Alex Orlov.

Deaf Health Wales: Mynediad i’r GIG, 4pm
Ymunwch â Martin Griffiths, Cath Booth a Ceri Harris ar gyfer sesiwn wybodus dan arweiniad BSL yn archwilio gwasanaethau cyfieithu ledled Cymru.

Deaf Moviemaker, 6pm
Arddangosfa fywiog o ffilmiau byr gan wneuthurwyr ffilm byddar.

Jonny Cotsen: Louder is Not Always Clearer, 8pm
Taith hunangofiannol Jonny Cotsen am fywyd person byddar mewn byd clywedol.

Amy Murray: Dirty Deaf Diary, 9.30pm
Comedi hwyr nos sy’n plymio’n ddwfn i rannau rhyfedd, bendigedig ac amlwg berthnasol bywyd byddar.

Dydd Sadwrn

Deaf Health Wales: Deall Iechyd Meddwl Pobl Fyddar, 9.30am
Sgwrs anffurfiol am iechyd meddwl a llesiant o fewn cymuned y byddar yng Nghymru.

Perfformiad cerdded Vamos Theatre, 10am, 1.30pm a 4.30pm
Perfformiad cerdded theatr fywiog a difyr gan Vamos Theatre.

Taking Flight Theatre: Kitty O’Neil, 10.30am, 2.30pm a 4pm
Cabaret BSL/Saesneg yn dathlu Kitty O’Neil, y fenyw fyddar ddewr a chyffrous a oedd yn stuntwoman.

Stondinau Deaf Gathering, 11am–4pm
Amrywiaeth o sefydliadau yn cynnig cefnogaeth iechyd meddwl, BSL, a gwaith artistiaid a chrefftwyr byddar.

Teithiau BSL o’r arddangosfa Artes Mundi 11 gan Sancintya Mohini Simpson, 11.15am
Ymunwch â ni ar gyfer taith dan arweiniad BSL o’n harddangosfa Artes Mundi gan Sancintya Mohini Simpson.

Deaf Health Wales – YELLOW: Sesiwn Gwella Corff a Meddwl gyda Alex y Hyfforddwr Personol, 11.30am
Ymunwch â Deaf Health Wales am sesiwn llesiant gyda’r hyfforddwr personol Alex Orlov.

Gweithdy dawns Quiet Beats, 12pm
Sesiwn dawns gyfoes wedi’i chynllunio ar gyfer pobl ifanc F/fyddar a Thrwm eu Clyw.

Perfformiad Quiet Beats, 2pm
Perfformiad ieuenctid yn dathlu undod, bywiogrwydd, llawenydd ac egni parti.

Deaf Health Wales: Mynediad i’r GIG, 2pm
Ymunwch â Martin Griffiths, Cath Booth a Ceri Harris ar gyfer sesiwn wybodus dan arweiniad BSL yn archwilio gwasanaethau cyfieithu ledled Cymru.

Gweithdy masg llawn Vamos Theatre, 3pm
Sesiwn greadigol, egniol ac ysbrydoledig yn rhoi mewnwelediad ymarferol i dechneg theatr masg llawn.

Anna Seymour: SPIN, 7.30pm
Perfformiad dawns ryngweithiol sy’n dathlu cysylltiad ac ymdoddiad, ac yn herio’r syniad nad yw pobl fyddar yn perthyn.

Noson Agored y Meic, 8.30pm
Dan arweiniad Fifi Garfield, mae’r noson agored hon ar gyfer cariadon a pherfformwyr comedi, cerddoriaeth, karaoke a llenyddiaeth lafar.

Dydd Sul

Deaf Health Wales: Deall Iechyd Meddwl Pobl Fyddar, 9.30am
Sgwrs anffurfiol am iechyd meddwl a llesiant o fewn cymuned y byddar yng Nghymru.

Anna Seymour: Mini SPIN, 10.30am
Perfformiad dawns ryngweithiol ar gyfer plant byddar, CODA, trwm eu clyw a chlywedol a’u teuluoedd.

Stondinau Deaf Gathering, 11am–4pm
Amrywiaeth o sefydliadau yn cynnig cefnogaeth iechyd meddwl, BSL, ac yn arddangos artistiaid a chrefftwyr byddar gwych.

Sul Gemau Bwrdd, 11am
Dewch i wneud ffrindiau newydd mewn sesiwn gemau bwrdd hamddenol dan arweiniad BSL.

Deaf Health Wales: Mynediad i’r GIG, 11.30am
Ymunwch â Martin Griffiths, Cath Booth a Ceri Harris ar gyfer sesiwn wybodus dan arweiniad BSL yn archwilio gwasanaethau cyfieithu ledled Cymru.

Gweithdy celf galw heibio gyda Kate Evans, 12pm
Gweithdy celf hwyliog i’r teulu cyfan. Byddwn yn defnyddio arddull celf graffiti gyda llawer o beniau lliwgar a phapur i greu collage a lluniadau.

Ioga BSL gyda Nez, 12pm
Sesiwn ioga ysgafn dan arweiniad BSL sy’n addas i bawb.

Sgwrs Artistiaid gydag Emily, Alex a Maggie, 2pm
Ymunwch â’r artistiaid am drafodaeth ddiddorol am eu gwaith newydd a’u myfyrdodau ar safbwynt unigryw pobl fyddar.

Perfformiad barddoniaeth Maggie Hampton, 3pm
Mae Maggie wedi creu cerddi newydd ac yn eu perfformio am y tro cyntaf yn ein gŵyl. Dewch i ddathlu llwyddiant Maggie gyda ni.

The Good Dinosaur + cyfieithiad byw BSL, 4pm
Ffilm addas i’r teulu gyda chyfieithiad byw mewn BSL.