Partneriaeth arloesol gyda Ballet Cymru yn cefnogi plant a phobl ifanc ag arthritis ieuenctid

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cydweithio â Ballet Cymru i ddarparu cymorth artistig, creadigol a chynhwysol i blant a phobl ifanc sy’n byw gydag arthritis ieuenctid.

Lansiwyd y Gwasanaeth Rhewmatoleg Pediatrig yn 2019 a dyma’r gwasanaeth arbenigol cyntaf ar gyfer rhewmatoleg bediatrig yng Nghymru. Mae'r tîm yn gofalu am blant a phobl ifanc ar draws de, canolbarth a gorllewin Cymru sy'n byw gyda chyflyrau rhewmatolegol fel arthritis ieuenctid.

Cafodd Dr Joanne May, a sefydlodd y gwasanaeth rhewmatoleg bediatrig, ei hysbrydoli i weithio gyda Ballet Cymru ar ôl cydnabod y potensial ar gyfer cymorth holistaidd a chyfle i wella gofal cleifion y tu hwnt i'r lleoliad clinigol.

Dywedodd Dr May:

Ein nod yw darparu gofal holistaidd ond mae amser mewn clinigau yn brin sy’n golygu’n aml bod y ffocws ar reoli a thrin y cyflwr. Yn gynnar, roeddem yn cydnabod y byddai ymyriadau creadigol o fudd i blant nid yn unig oherwydd y byddai elfennau dawns yn cefnogi symudiad, ond hefyd oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i fagu hyder a chefnogi lles plant a’u teuluoedd. Gwelsom hefyd y gallai rhieni a theuluoedd deimlo'n ynysig ac y gallent werthfawrogi cyfleoedd i gwrdd â theuluoedd eraill sydd â phrofiadau tebyg. Wrth i’r gwasanaeth ddatblygu, roeddem am edrych ar sut olwg fyddai ar bartneriaeth holistaidd y tu allan i’r lleoliad iechyd.

Wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, cynlluniwyd y rhaglen Dawnsio i Symud ar y cyd â Ballet Cymru i ddarparu profiad unigryw a thrawsnewidiol i blant a’u teuluoedd i archwilio eu meddyliau, eu teimladau, a’u galluoedd trwy ddawns a lluniadu, tra hefyd yn dysgu am y celfyddydau creadigol sy’n rhan o gynhyrchiad bale fel dylunio gwisgoedd ac adrodd straeon.

Drwy gydol y prosiect, gwnaethom sylwi hefyd ar y manteision annisgwyl o ddod â theuluoedd at ei gilydd gyda’r timau clinigol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o anghenion cleifion a’u teuluoedd y tu allan i amgylchedd y clinig.

Gyda chefnogaeth Cymru Versus Arthritis, mae’r diwrnodau hwyl i’r teulu hyd yma wedi’u cynnal yng Nghaerdydd, Casnewydd, a Chaerfyrddin ac wedi cynnwys cyfres o weithdai creadigol gan gynnwys dawns, ioga, a lluniadu. Gwahoddwyd rhieni a gofalwyr hefyd i gymryd rhan mewn gweithdai ymwybyddiaeth ofalgar dan arweiniad Tim Anfield o Mindful Families.

Dywedodd Louise Lloyd, Swyddog Mynediad a Chynhwysiant yn Ballet Cymru:

"Mae’r gair bale yn aml yn gallu codi rhwystrau, yn enwedig i bobl ifanc a allai fod mewn poen neu’n gofidio. Y syniad oedd ei wneud yn agored, yn gyfeillgar ac yn ddiddorol ac fe wnaethom dreialu gwahanol fformatau gyda mannau trafod a gweithdai i ddarganfod beth sy'n gweithio.

Fe wnaethon ni gloi’r diwrnod gyda’r perfformiad, a oedd yn foment hyfryd i deuluoedd. Roedd y plant a’r bobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a gallech weld eu hyder yn cynyddu drwy gydol y dydd.”

I ddarganfod mwy am Dawnsio i Symud, ewch i Louise Lloyd, Ballet Cymru.