A ninnau yn aelodau o'r Ffederasiwn Rhyngwladol, sy'n cynrychioli sefydliadau fel ein rhai ni mewn rhagor na 70 o wledydd, anfonwn ein cefnogaeth a'n cyfeillgarwch yn arbennig at Sefydliad Diwylliannol Wcráin (UCF), ein cyd-aelod o Ffederasiwn Rhyngwladol. Mae calonnau pawb yng Nghyngor Celfyddydau Cymru yn gwaedu dros bobl Wcráin a'r rhai sydd ag anwyliaid, cyfeillion a theulu yno ar hyn o bryd.

Cynigiwn hefyd ein cefnogaeth at artistiaid, actorion, perfformwyr, a'r rhai mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd, a sefydliadau a sefydliadau creadigol a diwylliannol eraill sy'n byw ac yn gweithio yn Wcráin ac yn yr holl ardaloedd eraill o’r byd sy’n wynebu gorthrwm a gwrthdaro a lle eu bod yn cael eu cadw rhag yr hawl cyffredinol i fywyd creadigol a diwylliannol.

A ninnau yn aelodau o'r Ffederasiwn Rhyngwladol, sy'n cynrychioli sefydliadau fel ein rhai ni mewn rhagor na 70 o wledydd, rydym yn unedig yn y gred bod y celfyddydau a diwylliant er lles y cyhoedd. Gallant drawsnewid cymdeithas a’i gwneud yn gynhwysol a theg – i'w lunio a'i gyrchu'n deg gan bob person.

Galwn hefyd am ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Wcráin yn llawn a gwaith ei artistiaid rhyfeddol ac ategwn ddatganiad UNESCO ar y gwrthdaro yn Wcráin, gan alw am barch at gyfraith ryngwladol yn ei holl agweddau.

Byddwn yn cefnogi pawb yn y byd creadigol a diwylliannol sy'n sefyll mewn undod â'u cydweithwyr yn Wcráin.