Mae Cysylltu a Ffynnu yn gronfa newydd wedi’i chefnogi gan Y Loteri Genedlaethol, sydd â’r nod o annog cydweithio rhwng sefydliadau, unigolion a phroffesynolion creadigol.

Cynigir grantiau o £500 i £150,000 ar gyfer prosiectau sydd â’r pwyslais ar gydweithio rhwng artistiaid unigol, grwpiau celfyddydol a sefydliadau sydd ddim yn rhai celfyddydol, er mwyn meithrin syniadau newydd fydd yn cefnogi artistiaid i oresgyn y pandemig a chefnogi sector gelfyddydol cryf a gwydn, sy’n cynrychioli holl bobl a chymunedau Cymru.

Dyma ddywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae Cysylltu a Ffynnu yn llwyddiant anhygoel ac yn gronfa all wir newid pethau. Mae’n symudiad cyffrous, a chyflym, tuag at gychwyn cywiro anghyfartaledd mewn cynrychiolaeth, a bydd yn hyrwyddo gwaith artistig newydd, cydweithredol.”

“Rydym ni’n rhoi sêl bendith i brosiectau fydd yn gwella mynediad a chynrychiolaeth ar gyfer pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol: pobl o leiafrifoedd du ac Asiaidd, artistiaid anabl a phobl sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym eisoes wedi ymrwymo i wella’r meysydd hyn, ac yn syml reit, mae Cysylltu a Ffynnu’n ffordd o dorri drwodd.”

    Mae £5m ar gael ar gyfer dwy rownd gyntaf Cysylltu a Ffynnu yn 2020 a 2021. Caeodd y rownd gyntaf hon ym mis Tachwedd a dyfarnwyd £2.3m, ar gyfer 33 prosiect. Bydd £2.7m ar gael ar gyfer yr ail rownd, sy’n agor ar gyfer ceisiadau ar y 27ain o Ionawr 2020.

    Am restr llawn o dderbynwyr CLICIWCH YMA

    Am fwy o wybodaeth ac i gyflwyno cais, ewch yma: https://arts.wales/cy/ariannu/gwneud-cais/sefydliadau/cysylltu-ffynnu 

    Dyma rai o’r cynlluniau sydd wedi derbyn arian:

    • Taking Flight Theatre, Caerdydd. £146,837 i weithio gyda Theatr Y Ffwrnes, Llanelli, Theatr a Parc a Dare, Treorci a Pontio, Bangor i ddatblygu rhwydwaith o lefydd cynhwysfawr ac hygyrch sydd yn hyderus a chefnogol wrth groesawu artistiaid, criw gefn llwyfan, gweinyddwyr a chynulleidfaoedd amrywiol.
    • Urban Circle, Casnewydd. Sefydliad celfyddydol i bob ifanc sydd wedi derbyn £130,510 i weithio gyda Phrifysgol De Cymru, gweithwyr llawrydd a G-Expressions (grwp dawns a theatr lleol) i greu cymwysterau addysgiadol newydd ym maes dawns. Byddant hefyd yn darparu gweithdai a chyrsiau ar hanes pobl ddu gan ddefnyddio ffilm, cerddoriaeth, ysgrifennu creadigol a DJio. Maent wedi’i hysbrydoli gan brotestiadau’r mudiad Bywydau Du o Bwys.
    •  
    • Eglwys Gymunedol Ffynnon, Llandysul. £68,800 ar gyfer cynllun ‘Calon’, sy’n dathlu ac adlewyrchu ar gydweithio cymunedol yn yr ardal. Cynigir brofiadau ar gyfer ystod eang o’r gymdeithas i ymateb yn greadigol drwy gyfrwng stori, perfformiad, cerdd, dawns a ffotograffau.  Ymysg y partneriaid mae clwb i bobl ifanc a chlwb canwio.