Cyngerdd cyhoeddus rownd derfynol y wobr, dydd Sadwrn 8 Tachwedd, Neuadd Dora Stoutzker, CBCDC
Gan ddathlu byd amrywiol adrodd straeon drwy gân, mae Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn hyrwyddo lleisiau talentog newydd, ac yn arddangos potensial mynegiant pwerus drwy wahanol ieithoedd.
Gan gystadlu am wobr o £15,000, bydd cantorion israddedig sydd wedi’u henwebu o brif ysgolion cerdd y DU yn perfformio rhaglen o dri darn, cân gelf o’u dewis, cân sy’n dathlu eu hiaith a’u diwylliant eu hunain, a chân osod Gymraeg, Pan Ddaw’r Nos gan Meirion Williams.
Ac yntau’n dod o wlad y gân, mae Bryn yn angerddol am ei dreftadaeth ddiwylliannol, ac yn enwedig Caneuon Cymraeg. Ar ôl ennill Gwobr y Gân cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC ym 1989, ac yna ei yrfa glodwiw fel canwr opera, mae’n arbennig o bwysig bod y wobr hon yn ei enw yn canolbwyntio ar y gelfyddyd sydd ei angen ar gân.
Yn ymuno â Bryn, y Prif Feirniad, mae panel rhyngwladol nodedig o arbenigwyr canu ac opera sef y cynhyrchydd cerddoriaeth glasurol o’r Almaen Ute Fesquet, a arferai fod yn Deutsche Grammophon, John Fisher, cyn Gyfarwyddwr Gweinyddu Cerddoriaeth yn Metropolitan Opera a chyn Gyfarwyddwr Artistig WNO, y mezzo-soprano o Awstria Angelika Kirchschlager, a’r arweinydd opera rhyngwladol ac Arweinydd Llawryfog Opera Cenedlaethol Cymru Carlo Rizzi.
Cynhelir dosbarthiadau meistr hefyd gyda’r soprano Rebecca Evans CBE a Richard Hetherington, Pennaeth Cerddoriaeth yn y Tŷ Opera Brenhinol, a sesiwn Holi ac Ateb gyda’r soprano April Koyejo-Audiger a’r tenor ifanc o Gymru Ryan Vaughan Davies, a gynrychiolodd ei wlad yn ddiweddar yng nghyngerdd gala Canwr y Byd Caerdydd.
Mae’r rheini sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, y cyhoeddir eu henwau’n fuan, yn gantorion ifanc o brif ysgolion cerdd y DU sy’n cwblhau eu hastudiaethau israddedig ac yn symud i hyfforddiant gradd meistr pwysig a fydd yn eu rhoi ar y llwybrau i yrfaoedd proffesiynol.
‘Rwy’n llawn cyffro i gael y wobr y gân anhygoel hon yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel rhan o’n cronfa newydd, Cronfa Syr Bryn Terfel. Pan newidiodd fy nghanu o fod yn ddiddordeb er pleser yn rhywbeth mwy difrifol, newidiodd fy holl safbwynt mewn amrantiad. Fe wnes i ymroi i ddysgu mwy a mwy am draddodiad y gân Gymraeg, a daeth perfformio a recordio’r caneuon hyn yn rhywbeth angerddol i mi.
Yna, agorodd yr angerdd hwn y drysau i’r Lied Almaeneg, y Chanson Ffrangeg, a’r gân Saesneg, gan arwain at y gystadleuaeth wych honno yng Nghanwr y Byd Caerdydd ym 1989 lle’r oeddwn i’n ddigon ffodus i ennill Gwobr y Gân.
Bydd un gân Gymraeg ysbrydoledig ar gyfer yr holl gystadleuwyr yn rhan annatod o’r gystadleuaeth newydd hon - a phwy a ŵyr, efallai mai dyma fydd y catalydd i fyfyrwyr ddarganfod angerdd dros y caneuon hyn, a dros ganu mewn iaith arall, sef y Gymraeg - elfen gofiadwy arall yn eu taith artistig.
Rydw i wrth fy modd fy mod, o’r diwedd, yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl. Gwaith caled, ymroddiad a rhagoriaeth fydd nod terfynol y myfyrwyr, ond bydd un ohonynt yn ennill y wobr ystyrlon hon a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu breuddwydion a’u dyheadau ymhellach fyth mewn cyfnod o ansicrwydd ofnadwy yn y celfyddydau.
Pob hwyl i’r holl gystadleuwyr a llongyfarchiadau i’r Gronfa sy’n datblygu’n barhaus. Gadewch i ni wneud hon yn llwyddiant mawr, nawr ac i’r dyfodol.’
Syr Bryn Terfel
Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC, Tim Rhys-Evans:
‘Nid yw dewis bywyd yn y celfyddydau byth y llwybr hawsaf, felly mae’n hollbwysig ein bod yn annog cenedlaethau’r dyfodol o artistiaid ifanc talentog i ymuno â ni - i arloesi, i greu gwaith eithriadol, ac i helpu i siapio diwydiant sy’n parhau i gael effaith gadarnhaol.
Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn angerddol am sicrhau bod pobl ifanc o bob rhan o Gymru, y DU a ledled y byd, yn darganfod y cyfoeth diwylliannol sydd gan y wlad hon a’r Coleg hwn i’w gynnig. Ochr yn ochr â Bryn, mae dathlu, hyrwyddo a rhannu’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ganolog i’r genhadaeth honno.’
Rydym wrth ein bodd ac wedi ein hysbrydoli i gydweithio ag ef, gan gefnogi prosiectau fel Gwobr y Gân, i ddod â’i weledigaeth yn fyw, a gyda’n gilydd drwy Sefydliad Cronfa i roi rhywbeth yn ôl i Gymru.’
Cyn y rownd derfynol ar ddydd Sadwrn 8 Tachwedd, cynhelir preswyliad tri diwrnod wedi’i ariannu’n llawn yn y Coleg, a fydd yn cynnwys darlith gan yr Archdderwydd, y bardd a’r ieithydd, Mererid Hopwood, gweithdai symud, hyfforddiant o ran y Gymraeg gyda Bryn ei hun, amser unigol gyda mentoriaid, a dosbarthiadau meistr.
Caradog Williams ac Iwan Teifion Davies fydd y pianyddion, a fydd yn arwain ac yn perfformio gyda’r cantorion ifanc wrth iddynt ddod â’r caneuon hyn yn fyw.