Bydd miloedd o lunwyr polisi diwylliannol yn cwrdd ym Marcelona, 29 Medi-1 Hydref, i greu agenda fyd-eang i ddiwylliant at y dyfodol.
Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn tynnu sylw at ein diwylliant a’n hiaith yn rhan o’n lles cymunedol. Bydd yr Athro Mererid Hopwood sy’n fardd, awdur, academydd ac archdderwydd ac Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn sôn am ein gwaith ar gyfer Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd Eluned Hâf: "Cynhadledd ddiwylliannol hynod bwysig yw Mondiacult. Yno mae gweinidogion ac arweinwyr diwylliannol o bob cwr o'r byd yn pennu’r agenda ddiwylliannol i’r byd a datgan eu hymrwymiadau. Yma yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn gorfodi ein cyrff cyhoeddus i gyflawni’r 7 nod llesiant i greu dyfodol cynaliadwy. Un o’r 7 nod yw diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
"Fel arweinwyr, mae gennym ddegawd o brofiad o gydnabod ein diwylliant a'n hiaith Frodorol, y Gymraeg, yn rhan ganolog i’n datblygiad cynaliadwy a'n lles. Rydym yn edrych ymlaen at y cyfarfod i wrando ar arweinwyr Brodorol, dysgu oddi wrthynt a rhannu ein harbenigedd ieithyddol sydd gymaint ei angen ar y byd."
Mererid Hopwood fydd yn cadeirio digwyddiad gyda Chomisiwn Canada i UNESCO: Listening to the Land: Indigenous Knowledges in Policy. Bydd yn trafod sut mae cynnwys lleisiau, ieithoedd (gan gynnwys y Gymraeg), lleoedd, mynegiant a gwybodaeth Frodorol i greu ymchwil fwy cynhwysol a gwell polisïau. Ar y panel bydd Barbara Filion (Ymarferydd yn y Celfyddydau, Diwylliant a Pholisi Brodorol), Damien Serre (Athro Daearyddiaeth, Prifysgol Paris Saclay-UVSQ) a Tom Johnson (Cadeirydd, Hawiⱡkini kiⱡkiⱡwiy ka·kⱡukaqwaⱡaʔis/Gweithgor CCUNESCO ar Ieithoedd Brodorol a Chyfarwyddwr Comisiwn Pysgod a Bywyd Gwyllt Eskasoni/Nova Scotia).
Meddai Mererid:
"Yn 2020 roedd UNESCO wedi rhoi cyfle inni glywed y saith mil a rhagor o ieithoedd y byd a gwrando arnynt gan ganolbwyntio am ddegawd ar yr ieithoedd Brodorol. Mae MONDIACULT yn gyfle i archwilio rhan iaith mewn diwylliant ac ystyried sut mae meithrin amrywiaeth ieithyddol y byd a chreu lles heddychlon i’w drigolion. Rwy’n edrych ymlaen at wrando ar y panelwyr a dysgu ganddynt gan gynnig llais y Gymraeg yn y trafod."

Eluned Hâf fydd yn cynrychioli Cymru o ran Ffederasiwn Rhyngwladol y Cynghorau Celfyddydol a’r Asiantaethau Diwylliannol. Bydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, ‘Sustainable pathways for charting the future of arts and culture: In conversation with public agencies’ wrth gydweithio â Gweinyddiaeth Ddiwylliannol Sbaen. Bydd hefyd mewn nifer o sesiynau eraill lle bydd yn rhannu gwybodaeth a phrofiad o Gymru.

Eluned Hâf
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae cydweithwyr yn Ewrop yn canmol arferion da Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a’u harbenigedd wrth gynnwys diwylliant mewn polisïau a sefydliadau cyhoeddus. Bydd MONDIACULT yn creu camau pendant i ail hanner Degawd yr Ieithoedd Brodorol. Byddant yn cefnogi, adfywio a helpu i drosglwyddo ieithoedd brodorol a lleiafrifol y byd er budd cenedlaethau'r dyfodol."