Rydym yn recriwtio!

Mae Oriel Myrddin, canolfan Sir Gaerfyrddin ar gyfer celfyddydau gweledol, crefft a dylunio cyfoes, yn paratoi i ailagor yn dilyn ailddatblygiad cyffrous.

Rydym yn chwilio am sawl cynorthwyydd i gefnogi’r gwaith o redeg yr oriel yn ddidrafferth o ddydd i ddydd, gan gynorthwyo’r tîm i sicrhau profiad diogel, croesawgar, hygyrch a chynhwysol i bob ymwelydd. Mi fyddwch yn unigolyn brwdfrydig ynghylch celf weledol, crefftau a dylunio cyfoes a bydd gennych sgiliau gofal cwsmeriaid cryf.

Gall swyddi fod yn amser llawn neu ran amser, ond maent yn gytundebau parhaol (gellir ystyried gweithio hyblyg hefyd gydag ystod o oriau ar gael).

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod yr oriel yn ffynnu fel canolfan ddiwylliannol i Gaerfyrddin a’i hymwelwyr.

Ewch i www.orielmyrddingallery.co.uk am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais i ymuno â’r tîm.

Dyddiad cau: parhaus
 

Dyddiad cau: 31/12/2025