Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Arddangosfeydd i weithio yn ein tîm Ymgysylltu ag Ymwelwyr. Fe fyddwch yn gweithio gydag eraill yn y Gwasanaeth ac ar draws y Senedd i ddatblygu a darparu cynnwys digidol a ffisegol i ymwelwyr yr ystâd, a fydd yn cyfrannu at brofiad yr ymwelydd. Bydd y rôl yn gofyn ichi gynorthwyo'r Rheolwr Arddangosfeydd i ddarparu rhaglen o arddangosfeydd atyniadol ar ystad y Senedd sy’n rhoi llwyfan i ragoriaeth Cymru ac yn helpu i addysgu ymwelwyr am waith y Senedd. Mae'r rhaglen o arddangosfeydd yn adlewyrchu cyfrifoldebau a blaenoriaethau'r Senedd sy'n cynnwys llunio partneriaeth â sefydliadau cenedlaethol allweddol, ynghyd â phrosiectau a ddatblygwyd gyda chymunedau ledled Cymru. Dyma gyfle gwych i gael profiad o weithio fel rhan o dîm i ddatblygu arddangosfeydd digidol a ffisegol mewn atyniad i ymwelwyr ag iddo arwyddocâd cenedlaethol. Byddwch yn chwarae rhan annatod wrth gynyddu nifer yr ymwelwyr â'r ystâd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd ledled Cymru, a thu hwnt. 
 

Dyddiad cau: 30/11/2025