DYDD IAU 25 EBRILL A DYDD GWENER 26 EBRILL 2024

Cafodd y drydedd Fforwm Symudedd Diwylliannol ei threfnu gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, un o aelodau On the Move, yng Nghaernarfon.

Fel rhan o’i raglen aml-flwyddyn sy’n cael ei chyd-ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, bob blwyddyn mae On the Move yn trefnu Fforwm Symudedd Diwylliannol er mwyn edrych ar y cyd ar y tueddiadau rhyngwladol mewn symudedd artistig a diwylliannol. A hwnnw’n blatfform gwybodaeth unigryw, mae’r rhwydwaith yn gweithio gyda’i aelodau a phartneriaid i drefnu trafodaethau panel thematig ac i roi cyd-destun i faterion sy’n ymwneud â symudedd byd-eang a materion sy’n cael sylw ym Mlwyddlyfr Symudedd Diwylliannol blynyddol On the Move.

Nod Fforwm Symudedd Diwylliannol 2024 oedd dychmygu gorwelion newydd ar gyfer rhaglenni datblygu proffesiynol sydd â dimensiwn rhyngwladol.

 

Dyma flas o'r diwgyddiad i chi: